Diarddel nyrs am oes
- Published
Mae nyrs oedd yn defnyddio iaith fras wedi cael ei thynnu oddi ar y gofrestr nyrsio.
Roedd Marie Margaret Sloan wedi cael y sac o'i swydd fel rheolwraig gofal yng nghangen y Gogledd o Gwfaint y Chwiorydd Loreto yn dilyn pedair blynedd o anrhefn.
Mewn gwrandawiad arbennig o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, clywyd sut roedd Ms Sloan wedi gadael i leian fregus dderbyn y meddyginaeth anghywir am o leiaf wythnos a sut roedd hi'n chwilio'r we am straeon i godi cywilydd ar y Chwiorydd roedd hi'n eu galw'n "boncyrs" ac yn "boen yn y pen ôl" wrth staff.
Mae'r panel yn credu iddi ddwyn cannoedd o dabledi presgripsiwn oedd yn perthyn i leian oedd wedi marw i roi i'w brawd oedd yn sal yn Ne Affrica.
Yn ôl y panel, roedd hi'n rhoi ei chleifion mewn perygl di-angen dro ar ôl tro, a byddai hynny'n parhau tra'i bod ar y gofrestr.
"Roedd hi'n delio gyda chleifion oedrannus a bregus oedd yn dibynnu arni. Er bod Ms Sloan mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, doedd y gofal am y Chwiorydd ddim yn flaenoriaeth ganddi."
Archwilwyr wedi'u synnu
Mae canolfan y Chwiorydd Loreto yn Llandudno yn hen ysgol sydd wedi troi'n gartref i 20 o leianod oedrannus, ac fe ddechreuodd Ms Sloan weithio yno yn 2008.
Er ei bod wedi creu argraff ar benaethiaid yn ei chyfweliad am swydd y rheolwr gofal, gyda'i "holl" brofiad nyrsio, fe ddechreuwyd cwestiynu ei gallu yn fuan iawn.
Roedd archwilwyr anibynnol fu yno yn 2011 a 2012 wedi cael eu synnu gan yr hyn welson nhw.
Dywedodd un o'r gofalwyr a chogyddes, Janet Starr, oedd wedi bod yn gweithio yno am 16 mlynedd, wrth y panel bod y cartref i fod yn lle sanctaidd a thawel ond "fe ddaeth un o'r gofalwragedd i mewn i'r gwaith yn feddw a bu'n rhaid i mi ei hanfon hi adre er diogelwch pawb."
"Fe ffonies i Marie am y peth a'i hymateb hi oedd "Alla'i wneud dim byd am y peth"
Fe sylweddolodd yr archwilwyr bod cyfrinachedd wedi'i dorri gan Ms Sloan oedd yn uchel ei chloch, doedd dim hyfforddiant staff a doedd meddyginiaeth ddim yn cael ei storio'n ddiogel.
Smyglo "cannoedd" o dabledi i Dde Affrica
Roedd Ms Sloan hefyd wedi cael ei chyhuddo o atal cyflenwad meddyginiaeth i un wraig, heb ganiatâd y doctor, ac wedi rhoi'r feddyginaeth anghywir i un arall, wnaeth wneud y Chwaer honno'n sal.
Dywedodd Mrs Starr hefyd bod ei chyn-reolwraig wedi cyfaddef i gymryd "cannoedd" o dabledi a'u hanfon i Dde Affrica.
"Roedd Marie yn dweud bod meddyginaeth yn rhy ddrud allan yno ac na fedrai'i brawd-yng-nghyfraith ei fforddio", meddai.
"Fe ddywedais wrthi ei fod yn anghyfreithlon a'i bod yn smyglo cyffuriau, ond doedd hi ddim fel petai'n poeni."
Fe glywodd y panel sut y bu Ms Sloan yn cysylltu dros y we gyda chyn-ddisgyblion y lleianod mewn ymgais i ddod o hyd i straeon i godi cywilydd arnyn nhw.
Fe gymharodd un o'r Chwiorydd i lun ar y we o nain fronnoeth oedd wedi cael triniaeth gosmetig ar ei bronnau.
Fe honwyd iddi hefyd wneud sylwadau anaddas, gan ddweud bod y lleianod i "gyd yn boncyrs" ac yn "boen yn y pen ôl".
Ychwanegodd Mrs Starr: "Doedd hi ddim yn dangos unrhyw barch atyn nhw o gwbl."
'Cyfnod hir' o gamymddwyn
Er iddi gael cyfle i wrthod y cyhuddiadau, fe benderfynodd Ms Sloan gadw draw o'r gwrandawiad pum diwrnod o hyd.
Wedi penderfynu bod 13 o'r cyhuddiadau o gamymddwyn wedi'u profi, dywedodd y Cyngor bod angen amddiffyn cleifion a chadw hyder y cyhoedd.
Dywedodd cyflwynydd yr achos, Robert Clarke: "Roedd Ms Sloan yn rhoi'r Chwiorydd mewn perygl dro ar ôl tro... a doedd yr achosion ddim yn rhai unigol. Roedd y camymddwyn yn annymunol ac yn digwydd dros gyfnod hir."
Mae gan Ms Sloan 28 diwrnod i apelio yn erbyn y dyfarniad.