Pen-blwydd merch a diflannodd yng Nghasnewydd fis yn ôl
- Cyhoeddwyd

Mi fydd Nida Naseer yn cael ei phen-blwydd yn 19 mlwydd oed ddydd Sadwrn, Ionawr 25.
Wedi i'w theulu erfyn arni hi i ddod adref, mi fyddent yn nodi'r dyddiad yn ddistaw, tra mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i'w diflaniad.
Ar Ragfyr 28, diflannodd y ferch wrth roi y biniau allan yn ei chartref yn ardal Pillgwenlli, Casnewydd.
Doedd hi ddim yn gwisgo esgidiau, a doedd ganddi ddim ffôn, arian na chôt pan diflannodd o Stryd Linton am 8:00pm.
Mae Heddlu Gwent yn dweud bod ei diflaniad yn dal i fod yn ddirgelwch.
Erfyn
Yn yr apêl roedd ei thad, Naseer Tahir, yn erfyn arni i ddod adref tra bod ei mam, Najma Tahir a'i chwaer Shamyla Naseer yn dweud nad ydynt yn gallu byw hebddi.
Meddai Mr Tahir: "Mae mwy na tair wythnos wedi mynd heb glywed dim am Nida.
"Rydym yn ofnadwy o bryderus am ei diogelwch.
"Os yw rhywun un gwybod unrhyw beth am Nida, dywedwch. Rydym eisiau iddi ddod adref, rydym yn dy golli di Nida.
"Os wy ti'n gwrando tyrd yn ôl, mewn unrhyw gyflwr. Tyrd yn ôl mae'r holl deulu yn dy garu. Tyrd yn ôl plîs."
Fydd yna ddim chwilio o fannau penodol ar ei phenblwydd yn ôl yr heddlu ond maen nhw'n dweud bod yr ymchwiliad yn parhau.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd llun CCTV o Nida cyn iddi ddiflannu.
Mewn cynhadledd newyddio gan y Sefydliad Henna, sydd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd Mwslimaidd, apeliwyd arni i ddod adref. Ond mae'r prif weithredwr, Shahien Taj, yn cydnabod efallai nad yw hi eisiau dod adref.
Er i blismyn chwilio yr ardal ger campws Ffordd Nash, Coleg Gwent, lle roedd hi'n astudio, Ysgol Uwchradd Llysweri, Pont Gludo Casnewydd, Pont George Street a ger stadiwm Rodney Parade does dim tystiolaeth wedi dod i'r fei.
Atal addysg
Ganwyd Nida ym Mhacistan, a daeth y teulu i'r DU i chwilio am loches ar ôl gadael y wlad bum mlynedd yn ôl.
Flwyddyn yn ôl cafodd eu cais am loches ei wrthod ac maen nhw'n apelio yn erbyn y penderfyniad.
Honnir bod Nida wedi diflannu oherwydd roedd eu statws lloches yn ei atal rhag mynd i'r brifysgol. Roedd hi eisiau mynd ymlaen i astudio marchnata neu gyllid.
Y tro diwethaf y gwelwyd Nida roedd hi'n gwisgo jeans a thop du. Mae ganddi wallt hir du, o gorff main ac yn 5'3" o daldra.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2013