Streic: Pleidlais i weithwyr Ford ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ford - Pen-y-Bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,
Ffatri Ford Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae gweithwyr cwmni ceir Ford ym Mhen-y-bont-ar-Ogwr ymysg 5,000 o weithwyr y cwmni ym Mhrydain sy'n pleidleisio a fyddan nhw'n mynd ar streic.

Aelodau undeb Unite sy' mewn anghydfod gyda'r cwmni oherwydd amodau gwaith a phensiynau.

Ym Mhrydain mae'r gweithwyr yn gofyn am yr un sicrwydd gwaith a gwelliannau pensiwn â gweithwyr eraill y cwmni yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ffatri Pen-y-bont, sy'n adeiladu'r peiriannau ecogyfeillgar nifer o geir, yn un o chwe ffatri ym Mhrydain.

Dim trafodaeth

Mae gweithwyr wedi bod yn galw ar Ford i wella eu cynllun pensiynau ond nid yw'r cwmni wedi cychwynn unrhyw drafodaethau.

Dywedodd Roger Maddison o'r undeb: "Mae gweithwyr Ford yma wastad yn y rheng flaen pan mae'r cwmni eisiau gwneud toriadau.

"Wedi dwy gyfres o golli swyddi, gan gynnwys cau'r ffatri yn Southampton, mae staff eisiau gweld Ford yn gwneud rhyw fath o ymrwymiad i'w dyfodol.

"Dydi hyn ddim yn afresymol ond nid yw Ford yn fodlon cytuno i roi'r ru'n hawliau iddyn nhw ag ydyn nhw dramor yn Ewrop.

Dywedodd Mr Maddison fod gweithwyr "yn flin".

Colli gwaith

Yn 2012, collodd 1,500 o weithwyr eu swyddi wrth i Ford gau ei ffatri yn Southampton a'u hadran gwneud offer yn Dagenham.

Yn 2010 dywedodd Ford wrth yr undeb y byddai cynnydd pensiwn yn gysylltiedig â'r Mynegai Prisio Defnyddwyr nid y Mynegai Prisio Manwerthu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol