Seiclo: Thomas yn colli tir

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Geraint Thomas yn 11eg wedi'r cymal cyntaf

Mae Geraint Thomas wedi colli tir yn dilyn pumed cymal ras feicio'r Tour Down Under yn Adelaide, Awstralia.

Ond fe wnaeth y Cymro ei waith wrth i brif seiclwr Team Sky, Richie Porte, godi i'r pedwerydd safle yn y ras gydag un cymal yn weddill ddydd Sul.

Porte enillodd y pumed cymal o McLaren Vale i Willunga (151.5km) mewn amser o 3 awr 42'20", gyda Diego Ulissi ddeg eiliad y tu ôl iddo yn yr ail safle a Simon Gerrans yn drydydd bedwar eiliad ymhellach yn ôl.

Degfed oedd Geraint Thomas - 21 eiliad y tu ôl i Porte.

Ar frig y ras gyfan mae'n eithriadol o agos cyn y cymal olaf gyda Gerrans ar y blaen i eiliad yn unig i Cadel Evans, a phum eiliad o flaen Ulissi yn drydydd.

Mae Porte ddeg eiliad o'r brig yn y pedwerydd safle, ond mae Thomas bellach 37 eiliad o'r brig yn y nawfed safle.

Bydd y cymal olaf ddydd Sul yn teithio 85.5km o gwmpas strydoedd dinas Adelaide.