Ysbyty: Oddeutu mil yn protestio

  • Cyhoeddwyd
ProtestersFfynhonnell y llun, Pembrokeshire photography
Disgrifiad o’r llun,
Daeth protestwyr at ei gilydd fore Sul i leisio gwrthwynebiad i newidiadau arfaethedig yn Ysbyty Llwynhelyg
Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Photography
Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd yr orymdaith yn yr ysbyty cyn mynd drwy strydoedd Hwlffordd
Ffynhonnell y llun, @zac_nightmares
Disgrifiad o’r llun,
Bu gwrthwynebiad i'r cynlluniau ers iddyn nhw gael eu datgelu flwyddyn yn ôl
Ffynhonnell y llun, @LookITS_Lauren
Disgrifiad o’r llun,
Er gwaetha'r tywydd fe ddaeth pobl o bob oed i'r brotest

Mae cannoedd o bobl yn orymdeithio i wrthwynebu cau uned gofal arbennig i fabanod mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru, gydag un amcangyfrif yn dweud bod mil o bobl yno.

Mae'r penderfyniad i gau'r uned yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn rhan o gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywed y bwrdd y bydd y newidiadau yn darparu gofal gwell, ond mae gwrthwynebwyr yn rhybuddio y gallai beryglu bywydau.

Dywedodd Chris Overton, cadeirydd SWAT (Save Withybush Action Team): "Ein neges ni yw 'dewch yno neu ffarweliwch â'r gwasanaeth arbennig sydd ar ôl yn Ysbyty Llwynhelyg'."

'Anghredadwy'

Mae Mr Overton yn obstetrydd ymgynghorol yn Llwynhelyg, ac mae'n dweud ei bod yn "anghredadwy" bod y gweinidog iechyd yn credu bod y system newydd yn wasanaeth diogel.

"Rwy'n meddwl am esiampl Kate Sutton o bentref ger Hwlffordd - fe gollodd hi ei babi a bu bron iddi farw ei hun," meddai.

"Rwy'n gofyn a fyddai rhywun mewn sefyllfa debyg yn ddiogel pan fydd y system newydd mewn lle. Dydw i ddim yn credu y bydden nhw."

O dan y drefn newydd arfaethedig, meddygon yng Nghaerfyrddin fyddai'n darparu gofal arbenigol, gydag ysbytai eraill yn darparu gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan fydwragedd.

Adolygiad barnwrol

Cafodd y cynlluniau eu datgelu flwyddyn yn ôl gan y bwrdd iechyd, ond gwrthwynebwyd y cynllun gan y Cyngor Iechyd Cymuned lleol ynghylch pryderon y gallai cau'r uned fabanod yn Llwynhelyg beryglu bywydau.

Roedd hynny'n golygu bod rhaid i'r Gweinidog iechyd Mark Drakeford adolygu'r penderfyniad ei hun ar ôl derbyn cyngor gan banel o arbenigwyr.

Awgrymodd y panel wrth Mr Drakeford y byddai darparu unedau gofal arbennig i fabanod ar draws ardal y bwrdd iechyd "ddim yn ddiogel nac yn gynaliadwy".

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Mr Drakeford y byddai mesurau dros dro yn cynnwys datblygu gwasanaeth cludo 24 awr ar draws Cymru ar gyfer mamau a babanod sydd angen gofal brys.

Ar y pryd dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Sue Fish: "Bydd yr uned i fabanod newydd-anedig yng Nglangwili (Caerfyrddin) yn darparu lefel o ofal sydd ddim ar gael ar hyn o bryd i unrhyw fabi o fewn ardal Hywel Dda.

"Ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw fynd tu allan i'r ardal, felly fe fyddan nhw'n medru cael gofal yn agosach at adref nag y maen nhw fel arall."

Mae SWAT eisoes wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol o'r cynlluniau ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg, ac mae disgwyl penderfyniad ar y cais yna erbyn diwedd mis Chwefror.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol