Rhybudd i gefnogwyr Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Abertawe sy'n teithio i'r Eidal ar gyfer gêm yr Elyrch yn erbyn Napoli fis nesaf wedi cael rhybudd yn dilyn digwyddiadau treisgar yno yn y gorffennol.
Mae disgwyl i hyd at 3,000 o gefnogwyr deithio i gefnogi Abertawe yng Nghynghrair Europa ar Chwefror 27.
Ond mae sawl gêm flaenorol lle mae Napoli wedi chwarae wedi gweld trafferthion gyda'r dorf.
Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i deithio mewn grwpiau, osgoi trafnidiaeth gyhoeddus ac i beidio gwisgo lliwiau'r clwb heblaw yn y stadiwm.
Bydd fflud o fysiau ar gael i deithio o ardal y porthladd i'r Stadio San Paolo, a bydd angen tocynnau i'r gêm a phrawf o hunaniaeth.
Nod y bysiau yw osgoi ardaloedd trafferthus Forcella a Quartieri Spagnoli yn y ddinas.
'Canllawiau syml'
Mae Abertawe weid gweithio gyda Heddlu De Cymru, y Gonswliaeth Brydeinig yn Napoli, clwb Napoli FC a heddlu'r Eidal er mwyn ceisio gwneud y daith mor ddiogel â phosib i'r cefnogwyr.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Trwy ddilyn canllawiau syml rydym yn hyderus bod y risg i'r cefnogwyr sy'n teithio yn isel, ac y byddan nhw'n mwynhau eu taith i Napoli.
"Rydym yn annog yn gryf y dylai cefnogwyr ddefnyddio'r bysiau arbennig i'r stadiwm ac oddi yno - cyn ac ar ôl y gêm - gan leihau'r rhyngweithio gyda chefnogwyr a thrigolion lleol.
"Yn gyffredinol ein cyngor i gefnogwyr yw i fod yn ofalus a defnyddio'u synnwyr cyffredin. Dylai cefnogwyr deithio mewn grwpiau, ac ni ddylent wisgo lliwiau'r clwb i ffwrdd o'r gêm, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus."
Bydd y bysiau arbennig yn gadael gorsaf Stazione Marittima am 5:00pm amser lleol.
Nid yw'r cyngor yn annisgwyl i ystyried hanes cefnogwyr Napoli. Yn 2010 cafodd rhai o gefnogwyr Lerpwl eu trywanu a'u herlid drwy strydoedd y ddinas cyn gêm yng Nghynghrair Europa.
Y tymor yma daeth bygythiad y byddai'n rhaid i Napoli chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yn dilyn trafferth pan fu'n clwb yn wynebu Marseille.
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'r ben pan deithiodd Napoli i wynebu Arsenal mewn gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr ym mis Hydref y llynedd.
Bydd y ddau dîm - Abertawe a Napoli - yn wynebu'i gilydd gyntaf yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 20 cyn y gêm yn yr Eidal wythnos yn ddiweddarach.