Gobaith o hyd i Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Uwchgynghrair Cymru Corbett SportsFfynhonnell y llun, FAW

Caerfyrddin 0-3 Aberystwyth

Mae Aberystwyth yn dal yn gobeithio y byddan nhw yn y chwech uchaf yn Uwchgynghrair Corbett Sports ar ddiwedd hanner cynta'r tymor.

Fe wnaeth Aber yr hyn oedd ei angen ar y cae drwy guro Caerfyrddin mewn gêm gafodd ei symud i Barc Stebonheath yn Llanelli oherwydd cyflwr cae Caerfyrddin.

Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner er i Aber bwyso gydol yr hanner cyntaf hefyd.

Stuart Jones gafodd y gôl i'w rhoi ar y blaen wedi awr o chwarae.

Roedd rhaid aros tan naw munud cyn y diwedd am yr ail pan sgoriodd Geoff Kellaway i ddyblu'r fantais, ond roedd gwell i ddod o fewn dau funud i Aber ac i Kellaway.

Pan dderbyniodd yr asgellwr y bêl ar yr asgell chwith doedd hi ddim yn ymddangos bod llawer o berygl i Gaerfyrddin.

Ond rhywsut llwyddodd Kellaway i fynd heibio dau ddyn cyn troi a thanio bollten o ergyd i gornel bella'r rhwyd.

Mae'r canlyniad yn gadael Aber yn y chwech uchaf, bedwar pwynt o flaen Y Rhyl sydd ag un gêm yn weddill.

Ond ar y diwrnod y bydd y Rhyl yn chwarae eu gêm olaf ddydd mawrth bydd gwrandawiad panel disgyblu yn erbyn Aberystwyth.

Fe chwaraeodd Peter Hoy gêm i Aber yn gynharach yn y tymor pan nad oedd yn gymwys i wneud, ac fe allai hynny weld Aber yn colli pwyntiau fel cosb.

Fe allai hynny weld y Rhyl yn gorffen yn uwch nag Aber.