Cwpan FA: Caerdydd ac Abertawe yn ennill

  • Cyhoeddwyd
cwpan FA

Bydd dau dîm o Gymru ym mhumed rownd Cwpan yr FA y tymor hwn yn dilyn buddugoliaethau i Gaerdydd ac Abertawe ddydd Sadwrn.

Birnigmham 1-2 Abertawe

Roedd perygl y byddai Abertawe wedi gwastraffu'r ymdrech o guro Manchester United yn y drydedd rownd wrth ymweld â Birmingham.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 15 munud gyda gôl Novak, ac fe arhosodd hi felly am gyfnod hir.

Ond arwr Abertawe oedd Wilfried Bony. Daeth â'r Elyrch yn gyfartal wedi 67 munud gydag ergyd troed chwith yn dilyn gwaith da gan Roland Lamah.

Ac yna ddau funud yn ddiweddarach fe gafodd Bony ei ail - unwaith eto ergyd gyda'i dros chwith ddaeth â llwyddiant gyda Leon Britton yn creu.

Fe ddaeth Birmingham yn ôl yn gryf gan orfodi pedair cic gornel yn syth ar ôl ei gilydd yn y munudau olaf.

Ond fe ddaliodd yr Elyrch eu gafael am y fuddugoliaeth, a lle yn y rownd nesaf.

Bolton Wanderers 0-1 Caerdydd

Roedd ambell un wedi darogan gêm anodd i Gaerdydd oddi cartref yn Bolton, ac felly y profodd hi.

Roedd hi'n ddisgôr ar yr egwyl gyda Bolton yn dal eu tir yn erbyn y gwrthwynebwyr o'r Uwchgynghrair.

Ond yna fe sgoriwyd unig gôl y gêm wedi pedwar munud o'r ail gyfnod.

Frazier Campbell gafodd y bêl yn y cwrt cosbi ar ôl dod i'r maes fel eilydd ar ddechrau'r ail gyfnod, ac fe daniodd ergyd gyda'i droed dde i ganol y gôl.

Fe gafodd y rheolwr Ole Gunnar Solskjær gyfle i weld dau o'i chwaraewyr newydd gyda Wolff Eikrem yn chwarae'r hanner cyntaf i gyd, a Daehli yn dod i'r maes am y deng munud olaf.