Mellten yn anafu cerddwyr
- Cyhoeddwyd

Cafodd dau gerddwr anafiadau llosgi i'w traed wedi i fellten daro'r ddaear yn agos atyn nhw ddydd Sadwrn.
Collodd y ddau y teimlad yn eu traed a bu'n rhaid eu hachub o gopa Aran Fawddwy yn Eryri.
Daeth galwad gan y ddau - cyfeillion 58 a 37 oed o Sir Buckingham - yn dilyn storm sydyn o fellt a tharanau yn yr ardal.
Bu'n rhaid cludo un o'r ddau i lawr y mynydd, ond llwyddodd y llall i wella digon i gerdded i lawr ei hun. Cafodd y ddau wedyn eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Fe gafodd Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi eu galw pan fethodd hofrennydd yr Awyrlu â chyrraedd y ddau yn wreiddiol oherwydd cymylau.
Yn ôl Sarjant Dave Currie o'r Awyrlu, a aeth i lawr i geisio cynorthwyo'r ddau, roedden nhw'n meddwl bod mellten wedi taro'r ddaear ychydig droedfeddi o'u traed.
Ychwanegodd bod y ddau wedi tynnu eu hesgidiau a gweld bod eu sanau wedi llosgi, ac roedd llosgiadau a phothelli arnyn nhw.
Dywedodd Graham O'Hanlon o Dîm Achub Aberdyfi: "Roedd yr adroddiadau cyntaf ddaeth i law yn awgrymu bod y ddau wedi torri tair coes rhyngddyn nhw.
"Ond fe ddaeth i'r amlwg eu bod wedi cael eu dal mewn storm drydanol sydyn a difrifol.
"Roedd y ddau wedi eu parlysu yn eu coesau am gyfnod wedi i'r fellten daro'r ddaear rhyw fetr o'r man yr oedden nhw'n sefyll.
"Daeth y teimlad yn ôl i un o'r ddau, ond roedd y llall yn dal i fethu â symud rhan isaf ei gorff."