Tri arall yn symud i Gaerdydd
- Published
Mae hi wedi bod yn ddiwrnod prysur arall i Glwb Pêl-droed Caerdydd yn y ffenestr drosglwyddo.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod tri chwaraewr yn cael profion meddygol gyda'r clwb ddydd Sul.
Mae disgwyl y bydd asgellwr Manchester United, Wilfried Zaha, yn ymuno gyda'r Adar Gleision ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Yn ôl pob tebyg bydd yr ymosodwr Kenwyne Jones yn dod i Gaerdydd o Stoke fel rhan o gynllun cyfnewid fydd yn gweld Peter Odemwingie yn symud i'r cyfeiriad arall.
Hefyd bydd cefnwr Manchester United Fabio Da Silva yn symud i Gaerdydd ar gytundeb parhaol.
Mae'r cyfan yn golygu fod Ole Gunnar Solskjær wedi dod â chwech o chwaraewyr i'r clwb ers ymuno fel rheolwr ddiwedd y llynedd.
Yr wythnos ddiwethaf daeth Jo Inge Berget o glwb Molde yn Norwy i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ef oedd y trydydd o Norwy i symud gan ymuno â Magnus Wolff Eikrem a Mats Moller Daehli.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Ionawr 2014
- Published
- 13 Ionawr 2014
- Published
- 8 Ionawr 2014