BBC Cymru Fyw

Apel am ferch ar goll o Sir Benfro

Published
image copyrightHeddlu Dyfed Powys
image captionMae'r Heddlu yn dweud y gall Crystal Haynes-Wharton fod wedi teithio allan o'r sir

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gwneud apêl am ferch sydd ar goll o'i chartref yn Sir Benfro.

Cafodd Crystal Haynes-Wharton, sy'n 15 oed ac o Johnston yn Sir Benfro, ei gweld am y tro diwethaf am tua 11.00yh nos Sadwrn.

Mae'n bosib y gall Ms Haynes-Wharton fod wedi teithio allan o'r sir.

Mae hi'n 5' 7" o daldra, yn denau gyda gwallt du i lawr at ei hysgwydd a llygaid brown.

Mae hi'n gwisgo sbectol du gyda blodyn aur ar yr ochr.

Pan gafodd ei gweld am y tro diwethaf, roedd hi'n gwisgo siwmper coch a gwyn, jîns glas a chot du, ac yn cario bag pinc.

Dywedodd yr Arolygydd Roger Smith: "Rydym ni a theulu Crystal yn amlwg yn poeni amdani, ac yn apelio iddi gysylltu os fydd hi'n gweld yr apêl yma.

"Nid wyt ti mewn unrhyw drwbl, rydym am wybod dy fod yn ddiogel."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Crystal gysylltu â'r Heddlu ar 101.