Geraint Thomas yn drydydd Down Under
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas yn drydydd ar ddiwedd y Tour Down Under yn Awstralia.
Tom-Jelte Slagter oedd yn fuddugol, gyda Javier Moreno 17 eiliad y tu ôl iddo, a Thomas 25 eiliad ar ôl yr enillydd.
Roedd y Cymro ar y blaen wedi'r pedwerydd cymal ond disgynnodd i'r pumed safle wedi'r pumed cymal.
"Roedd hi'n siomedig ddoe ond roedd un diwrnod arall i fynd ac roedd cyfle i fod yn drydydd," meddai.
'Eitha' llwyddiannus'
"Roedd y bois yn y tîm yn wych eto - cawson ni ddiwrnod perffaith ac mae wedi bod yn wythnos eithaf llwyddiannus.
"Roeddwn i wedi siomi ddoe ond cyn dechrau'r ras, byddwn i wedi bod yn hapus iawn i ennill cymal."
Aeth Slagter i'r brig wedi iddo orffen yn ail y tu ôl i Simon Gerrans ar y pumed cymal ddydd Sadwrn.
Llwyddodd i gadw ar y blaen ar y cymal olaf - 50 milltir drwy Adelaide - i orffen gydag amser o 18 awr 28 munud a 32 eiliad.
1. Tom-Jelte Slagter (Blanco) 18:28:32"
2. Javier Moreno (Movistar) +17"
3. Geraint Thomas (Team Sky) +25"
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2014
- 25 Ionawr 2014