Dau gwmni yn y llys wedi i glwyd ladd merch ym Mhen-y-bont
- Published
Mae dau gwmni yn y llys ar gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch wedi i ferch ifanc farw ar ôl cael ei gwasgu gan glwyd drydanol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Karolina Golabek, oedd yn bump oed, yn chwarae ar ei phen ei hun pan aeth hi'n sownd yn y glwyd am hanner awr.
Cafodd anafiadau difrifol i'w thu mewn a bu farw yn yr ysbyty.
Cofnododd cwest reithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
Cwmni trydanol Tremorfa o Laneirwg yng Nghaerdydd oedd yn gyfrifol am y glwyd ar ran y gymdeithas dai leol.
Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o dorri Rheol 33 o'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch.
Mae John Glen Installations Services o Abertawe, oedd ag is-gontract i gynnal a chadw'r glwyd, hefyd yn wynebu'r un cyhuddiad.
Fe wnaeth ynadon Pen-y-bont ohirio'r achos a'i drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Hydref 2012
- Published
- 8 Awst 2011
- Published
- 23 Tachwedd 2010
- Published
- 2 Medi 2010
- Published
- 13 Gorffennaf 2010
- Published
- 5 Gorffennaf 2010