BBC Cymru Fyw

Ngog yn symud i Abertawe

Published

Mae Abertawe wedi arwyddo blaenwr Bolton David Ngog tan ddiwedd y tymor.

Roedd cytundeb y Ffrancwr i fod i ddod i ben yn yr haf a dyw manylion y ffi ddim wedi eu cyhoeddi.

Gobaith Rheolwr yr Elyrch Michael Laudrup yw y bydd y chwaraewr 24 oed yn cael chwarae yn erbyn Fulham ddydd Mawrth.

Roedd wedi chwarae i Lerpwl cyn symud i Bolton yn Awst 2011 ar gost o £4m.

Dechreuodd ei yrfa yn Paris St-Germain ac mae wedi chwarae 19 o weithiau i Bolton y tymor hwn a sgorio pedair gôl.

Bydd yn cryfhau opsiynau Laudrup y mae ei dîm wedi colli wyth gêm yn olynol yn yr Uwchgynghrair.

Straeon perthnasol

  • Manchester United 1 - 2 Abertawe