Carcharu dau am werthu merched fel puteiniaid
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Casnewydd mae dyn a dynes wedi cael eu carcharu am werthu dwy ddynes o'r Weriniaeth Tsiec fel puteiniaid yng Nghaerdydd.
Cafodd Ladislav Kurina, 29 oed o'r Weriniaeth Tsiec, ei garcharu am ddwy flynedd a saith mis ar ôl pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o ecsploetio rhywiol.
Mae ei gyd-ddiffynydd, Angelika Bacan, 26 oed o Rwmania, wedi cael dedfryd o 15 mis am "fod yn barod i gynorthwyo" pan oedd yn gweithio fel putain.
Yn ôl y Barnwr Eleri Rees, roedd yn "drosedd hollol atgas".
Cafodd Bacan ei chyhuddo o fod ag arf bygythiol yn ei meddiant.
Eisoes wedi cyfadde'
Roedd y ddau eisoes wedi cyfadde' trefnu i'r ddwy ddynes 25 a 26 oed ddod i'r DU o'r Weriniaeth Tsiec er mwyn gweithio yn y diwydiant rhyw.
Clywodd y llys fod y merched wedi cyrraedd y DU o'u gwirfodd cyn sylweddoli mai ond hanner eu henillion y bydden nhw'n cael gan y pâr.
Dywedd Jeremy Jenkins ar ran yr erlyniad: "Roedd yna gamddealltwriaeth ynglŷn â'u hamodau gwaith.
"Roedd y ddwy ar y clwt ac mewn sefyllfa argyfyngus."
Cafodd y merched eu cludo i dŷ ym Mae Caerdydd ble buon nhw'n gweithio fel puteiniaid gyda Bacan a Kurina, fu'n cadw enillion y merched.
Dywedodd Mr Jenkins: "Ar ôl dim ond wythnos yng Nghaerdydd roedden nhw ar y clwt, yn gweld hyd at bedwar cwsmer y dydd ac weithiau'n gweithio saith diwrnod yr wythnos."
Cysylltodd y merched gydag elusen Cymru Ddiogelach yng Nghaerdydd, ac fe gysylltodd yr elusen â'r heddlu ar eu rhan.
Yn ôl y barnwr, roedd y ddiffynyddion wedi pledio'n euog a'u dedfryd yn adlewyrchu hynny.
Bydd y ddau'n cael eu rhyddhau ar drwydded wedi hanner eu dedfryd.
'Cwbl annerbyniol'
Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw'n euog o droseddau "ofnadwy".
"Mae masnachu pobl yn gaethwasiaeth gyfoes ac yn gwbl annerbyniol mewn cymdeithas wâr.
"Dylai rhai sy'n ceisio dibrisio bywyd drwy rwystro hawliau dynol sylfaenol person arall wybod y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cyfiawnder.
"Mae gennym ni bartneriaethau lleol gwych i'n helpu ni adnabod ac erlyn achosion lle mae masnachu pobl yn ffactor, a gwneud yn siwr bod rhai sy'n dioddef yn cael cefnogaeth lawn."
'Dinistrio bywydau'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Maal o Heddlu'r De: "Mae masnachu pobl yn dinistrio bywydau. Mae ei effeithiau yn sarnu cymunedau ac mae'n rhywbeth na wnawn ni ei dderbyn yng Nghaerdydd.
"Diolch byth, mae'r merched yn ôl gyda'u teuluoedd.
"Mae'n ddealladwy bod rhai sydd wedi cael eu mashnachu yn ofnus neu'n gofidio ond ry'n ni'n gobeithio y bydd cyhoeddi canlyniad yr achos yma'n annog unrhywun sy'n diodde' i chwilio am gymorth a chysylltu gyda'r heddlu."