Eos i barhau i drafod gyda'r BBC
- Published
Mae aelodau Eos wedi pleidleisio dros barhau i drafod cytundeb darlledu newydd gyda'r BBC.
Yn dilyn dau gyfarfod o aelodau Eos yng Nghaernarfon a Chaerdydd, dywedodd Eos fod ganddyn nhw bellach fandad i drafod cytundeb newydd.
Dywedodd Dafydd Roberts, sy'n aelod o fwrdd Eos: "Mae'r tribiwnlys wedi dyfarnu ar egwyddorion pwysig iawn yn y fan 'ma.
"Maen nhw wedi dyfarnu bod 'na werth ychwanegol i'r gerddoriaeth Gymraeg ar gyfer Radio Cymru ac i'r BBC, ac mae hwnna yn gosod cynsail pwysig iawn, iawn, iawn i unrhyw iaith gynhenid arall ym Mhrydain."
Mae gohebydd celfyddydau a chyfryngau Huw Thomas wedi disgrifio'r datblygiad fel un "arwyddocaol".
"Yn sicr mae hi'n foment arwyddocaol yn hanes yr anghydfod yma," meddai, "ac yn dangos fod yna awydd gan y ddwy ochr i weithredu'r drwydded newydd."
Eos sy'n berchen ar hawliau darlledu ar gyfer miloedd o ganeuon Cymraeg, wedi i lawer o gantorion Cymraeg benderfynu ymuno â'r asiantaeth wedi i PRS ostwng y gyfradd tâl roeddent yn ei dderbyn.
Ni lwyddodd Eos a'r BBC i gytuno ar faint o arian dylai'r artistiaid dderbyn yn flynyddol ac fe aeth yr achos i dribiwnlys.
Penderfynodd hwnnw mai £100,000 ddylai'r pris fod - y ffigwr roedd y BBC wedi dweud eu bod yn fodlon ei dalu, ond llawer is na'r £1.5 miliwn roedd Eos wedi gobeithio amdano.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Ionawr 2014
- Published
- 16 Rhagfyr 2013
- Published
- 23 Medi 2013