Pryder am ddyfodol cylchoedd meithrin ar Ynys Môn

Plant yn chwarae Image copyright PA
Image caption Mae'r Mudiad Meithrin yn cynnal 33 o gylchoedd ar Ynys Môn ar hyn o bryd

Mae ymgyrch wedi cychwyn ar Ynys Môn i bwyso ar y cyngor sir i ailystyried toriadau posib i'r gyllideb, allai effeithio'n ddifrifol ar rai o gylchoedd meithrin yr ynys.

Mae'r cyngor yn ystyried gostwng nifer y grantiau sy'n mynd at gynnal gweithgareddau'r Mudiad Meithrin - ond maen nhw'n dweud hefyd eu bod yn ystyried gostwng oed mynediad i ysgolion o fis Medi ymlaen.

Yn ôl y cyngor, fe fyddan nhw'n cydweithio i geisio "dod o hyd i'r ffordd orau ymlaen".

Mae ymgynghoriad wrthi'n cael ei gynnal, a bydd yn dod i ben ar Ionawr 30.

Dywed y Mudiad Meithrin eu bod yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda'r cyngor yn y dyfodol ac nad ydyn nhw am wneud sylw pellach rhag ofn "peryglu llwyddiant" y trafodaethau hynny.

Petai argymhellion y cyngor yn cael eu cymeradwyo, gallai plant ddechrau mynd i'r ysgol gynradd am 10 awr yr wythnos yn dair oed - yn hytrach na mynd i'r cylch meithrin.

Mae'r Mudiad Meithrin yn cynnal 33 o gylchoedd meithrin ar Ynys Môn ac yn cyflogi 130 o bobl.

£20m o arbedion

Mae Cyngor Môn yn gorfod gwneud gwerth £20m o arbedion dros y pum mlynedd nesa', ac fel rhan o hynny mae 'na argymhelliad i dorri'r grant ar gyfer gweithgareddau meithrin o £3,000.

Er nad yw hynny, yn ei hun, yn swm mawr mae 'na bryderon y byddai'r toriad - ynghyd ag argymhellion eraill, fel gostwng yr oed mynediad i ysgolion a thorri'n ôl ar hyfforddiant blynyddoedd cynnar - yn cael effaith andwyol ar addysg feithrin yn y sir.

Daeth bron i 100 o bobl i gyfarfod brys ym Mhentre' Berw ger Y Gaerwen nos Lun i drafod y sefyllfa.

Dywedodd un rhiant ei bod wedi "dychryn bod y cyngor yn ystyried torri'n ôl gymaint".

"Mi fydda' hynny'n ddiwedd ar Gylch Meithrin Talwrn," meddai. "A lle mae'r plant i fod i fynd? 'Does 'na ddim lle nag adnoddau yn yr ysgol gynradd yn Nhalwrn rwan, 'does 'na ddim digon o staff."

Yn ôl rhiant arall o Gylch Meithrin Henblas: "Ein pryderon mawr ni ydy bod hyn bron iawn fatha double whammy. Ma' nhw'n trio lleihau'r grant a hefyd yn trio cael plant sy' dros eu tair i fynd i'r ysgol yn gynt.

"Fasa hynny'n creu trafferthion aruthrol i'n cylch ni a fasa hi'n anodd gwybod os fasa ni'n gallu parhau."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Rhian Price

10 awr o addysg

Ond mae Cyngor Môn yn pwysleisio eu bod nhw'n edrych ar y posibilrwydd o ostwng oed mynediad fel y gall rhai ysgolion ddarparu'r gwasanaeth yma eu hunain.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae gan yr awdurdod ddyletswydd statudol i sicrhau bod plant yn derbyn 10 awr o addysg yr wythnos o ddechrau'r tymor ysgol yn dilyn eu trydydd penblwydd.

"Mewn sawl rhan o'r ynys ar hyn o bryd, mae'r oriau yma'n cael eu darparu gan gymdeithasau cyn-ysgol hyd nes y mis Medi yn dilyn trydydd penblwydd y plentyn - drwy arian gan yr awdurdod - ac wedyn yn cael eu darparu gan yr ysgol leol.

"Mewn rhai rhannau o'r ynys, mae'r oriau yma'n cael eu darparu yn gyfan gwbl gan gymdeithasau cyn-ysgol.

"Rydym nawr, fodd bynnag, yn edrych ar y posibilrwydd o ostwng oed mynediad fel y gall rhai ysgolion ddarparu'r 10 awr eu hunain. Mewn ardaloedd lle na fydd hyn yn bosib, byddem, wrth gwrs, yn dymuno parhau i weithio gyda chymdeithasau cyn-ysgol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r ddarpariaeth.

"Rydym yn ymwybodol bod hwn yn fater o bryder ymysg cymdeithasau cyn-ysgol a byddwn yn ymdrechu i weithio'n agos gyda nhw i ddod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen."

'Integreiddio'

Ond mewn cyfweliad ar raglen y Post Cynta ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ffred Ffransis:

"Dwi'n gweld bai ar y cyngor o ran y ffordd maen nhw'n blaenoriaethu datblygu economi Sir Fôn - mi fyddan nhw'n denu lot o fewnfudwyr. Felly mae darparu addysg Gymraeg yn gwbl allweddol i integreiddio mewnfudwyr.

"Mae 'na ddwy ran i addysg, ond mae pwyslais y byd addysg ar yr ochr broffesiynol yn unig. Hanner y peth yw hynny, a hanner arall yr ateb yw awydd y disgyblion a'u teuluoedd, eu rhieni, i ddysgu.

"Mae'n rhaid i chi gynnwys y rhieni, cymunedau a'r cylchoedd meithrin yn y broses addysg, fel bod y gymuned leol yn teimlo perchnogaeth dros y broses."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.