Warburton ar y fainc i wynebu'r Eidal
- Published
Bydd Sam Warburton ar y fainc wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda gêm yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.
Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm yn Stadiwm y Mileniwm, wrth i Warburton barhau i geisio gwella o anaf i'w ysgwydd. Dydy capten arferol Cymru ddim wedi chwarae ers mis Tachwedd.
Rhys Priestland fydd yn dechrau yn safle'r maswr, tra bod Paul James wedi ei enwi yn y rheng flaen yn lle Gethin Jenkins.
Daeth cadarnhad ddydd Llun na fyddai'r prop Jenkins ar gael ar gyfer y gêm agoriadol oherwydd anaf i'w ben-glin, felly Paul James sy'n llenwi'r bwlch wrth ymyl Richard Hibbard ac Adam Jones yn y rheng flaen.
Luke Charteris fydd yn chwarae gydag Alun Wyn Jones yn safle'r clo yn absenoldeb Ian Evans.
Gyda Warburton ar y fainc, Justin Tipuric a Dan Lydiate fydd y blaenasgellwyr, a Toby Faletau yn wythwr.
Mae Warren Gatland wedi dewis Rhys Priestland o flaen Dan Biggar i ddechrau yn safle'r maswr, a Mike Phillips fydd yn dechrau yn safle rhif naw.
Mae chwaraewyr cefn Cymru yn ddigon cyfarwydd, wrth i Alex Cuthbert a George North ddechrau ar yr asgell, a Leigh Halfpenny yn gefnwr.
Scott Williams a Jamie Roberts sy'n cwblhau'r tîm.
'Dechrau da'
Dywedodd Warren Gatland bod Sam Warburton wedi bod yn hyfforddi yn dda, ond mai Alun Wyn fyddai'n arwain y tîm, a Tipuric yn safle'r blaenasgellwr.
"Rydyn ni'n edrych am ddechrau da; wnaethon ni ddechrau yn araf y llynedd ac rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod yn barod o'r dechrau," meddai.
"Dechreuodd yr Eidal hefo buddugoliaeth dros Ffrainc y llynedd, felly bydden nhw'n barod ddydd Sadwrn ac mae angen i ni ddechrau'n dda ac adeiladu hyder a momentwm.
"Mae'n dîm cryf, profiadol, ond roedd lot o drafod am y tîm sydd yn sefyllfa grêt i fod ynddi fel hyfforddwr.
"Mae bron pawb yn ffit sy'n eithaf anghyffredin."
Cymru v Yr Eidal, Dydd Sadwrn, Chwefror 1, 14.30.
Olwyr: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Scott Williams, Jamie Roberts, George North, Rhys Priestland, Mike Phillips;
Blaenwyr: Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones (C), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Toby Faletau;
Eilyddion: Ken Owens, Ryan Bevington, Rhodri Jones, Andrew Coombs, Sam Warburton, Rhys Webb, James Hook, Liam Williams
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Ionawr 2014
- Published
- 23 Ionawr 2014
- Published
- 22 Ionawr 2014