Cyngor am i ganolfan addysg arbennig aros yn Y Rhyl
- Published
Mi ddylai canolfan addysg ar gyfer plant sydd â phroblemau ymddygiad yn Sir Ddinbych aros yn ei safle presennol, yn ôl swyddogion y cyngor.
Pan symudodd yr uned o Lanelwy i hen gartref plant Plas Cefndy yn Y Rhyl yn 2008, mesur dros dro oedd hyn.
Fe ddaeth y cytundeb tair blynedd i ben yn 2011 ond fe gafodd ei ymestyn i fis Awst eleni.
Mae swyddogion wedi bod yn chwilio am adeiladau addas eraill ond heb fawr o lwc, a rwan yn rhoi cais i gael aros ym Mhlas Cefndy yn barhaol.
Maen nhw'n dweud nad oes yr un gwyn wedi bod, ac y byddai'r cyngor yn ei gweld hi'n anodd dod o hyd i denantiaid eraill i'r safle.
Roedd y Plas wedi bod yn wag ers cryn amser cyn troi'n uned ymddygiad.
Mae 37 o bobl yn gweithio ar y safle, sydd wedi cael canmoliaeth gan archwilwyr Estyn am y modd maen nhw'n cydweithio gydag ysgolion prif ffrwd.