Papur yn lleihau tudalen Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae'r Carmarthen Journal wedi cael eu beirniadu am leihau maint eu tudalen Gymraeg.
Yn rhifyn diweddara'r papur, mae'r dudalen Gymraeg wedi troi'n golofn sydd tua thraean hyd y dudalen flaenorol.
Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr sy'n gyfrifol am ddarparu'r cynnwys ar gyfer y dudalen.
Yn ôl eu cadeirydd Meirion Jones, cafodd y penderfyniad ei wneud heb ymgynghori â nhw.
Dim dealltwriaeth o'r iaith'
"Licen i bwysleisio bod nhw wedi gwneud hyn heb drafod gyda ni.
"Oedd 'na gyfarfod i fod wythnos diwethaf gyda nhw i gael esboniad ac i ni'n gobeithio cal cytundeb am y ffordd ymlaen ond maen nhw wedi canslo hwnna a bydd dim cyfarfod nawr tan y pedwerydd ar ddeg o Chwefror."
Mae'n credu y gallai'r newid ym mherchnogaeth y papur fod yn rhannol gyfrifol am agwedd y golygyddion, a dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn poeni nad oes ganddyn nhw "unrhyw ddealltwriaeth o fodolaeth yr iaith".
Gofynnodd y BBC am esboniad o'r rhesymau tu ôl i'r penderfyniad.
Trydar yn Gymraeg
Dywedodd golygydd y papur Emma Bryant ei bod hi'n edrych 'mlaen i gael cyfle i drafod y sefyllfa gyda'r fenter iaith.
Doedd hi ddim yn barod i wneud sylw ynglŷn ar awgrym Mr Jones fod y papur wedi gofyn am gyfraniad ariannol gan y fenter i gyhoeddi deunydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe wnaeth hi bwysleisio fod gohebwyr y Journal wedi dechrau trydar trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod yr wythnos ddiwethaf a bod y deunydd oedd ar y dudalen Gymraeg i'w weld mewn rhannau eraill o'r papur.