18,000 o swyddi adeiladu?

  • Cyhoeddwyd
Builders at workFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae sôn y bydd bron i 18,000 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Yn ôl gwaith ymchwil, mae disgwyl y bydd bron i 18,000 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Dywed sefydliad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu - y CSN - y bydd yna dwf o 3.4% yn y diwydiant adeiladu rhwng nawr a 2018.

Mae'r ffigyrau yn cynnwys y gwaith o godi atomfa newydd yn Wylfa, Ynys Môn, er nad yw'r prosiect wedi ei gadarnhau eto.

Yn ôl CSN, mae'r amcangyfrif ar gyfer y cynnydd yng Nghymru yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, sef 2.2%.

Cafodd cynnwys adroddiad CSN ei ryddhau gan Fwrdd Hyfforddi y Diwydiant Adeiladu.

Nod y Bwrdd yw gwneud yn siwr fod cyflogwyr yn sicrhau fod gan y gweithlu y sgiliau a'r hyfforddi cywir.

Dywed yr adroddiad mae prosiectau mawr fydd y prif reswm am y twf yng Nghymru, a hynny'n ail yn unig i dde orllewin Lloegr.

Mae'r prosiectau mawr yn cynnwys datblygiad £1.2 biliwn safle Coed Darcy ger Castell-nedd a gwaith adfywio ardal Merthyr Tudful.

Y ail reswm am y cynnydd, yn ôl yr adroddiad, yw'r twf yn y sector dai.

Maen nhw'n dweud fod cynllun Llywodraeth Cymru Cymorth i Brynu wedi rhoi hwb i'r sector dai.

Mae disgwyl i 17,850 o swyddi adeiladu gael eu creu yng Nghymru erbyn 2018, gyda chyfanswm o 182,000 ar gyfer y DU.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Honnir y gallai atomfa newydd fod yn hwb mawr i'r diwydiant adeiladu.

Yn ôl Wyn Pritchard o Fwrdd Hyfforddi y Diwydiant Adeiladu, roedd "adroddiad y CSN yn dangos fod pethau yn dechrau edrych yn fwy positif yma yng Nghymru, a hynny ar ôl cyfnod digon anodd."

"Ond ar ôl dweud hynny, mae rhagolygon lefelau cyflogaeth ar gyfer 2018 yn parhau yn is nag oeddynt cyn y dirwasgiad. Felly mae yna angen am fesurau nawr fydd yn sicrhau twf parhaol yn y tymor hir."

Dywedodd Richard Price o'r Ffederasiwn Adeiladwyr Tai: "Ar ôl sawl blwyddyn anodd, mae'r sector dai yn gwella."

"Mae cynllun 'Cymorth i Brynu' Llywodraeth Cymru yn gymorth wrth fynd i'r afael â phroblem prinder morgeisi. Mae'r broblem o ddiffyg morgeisi wedi cyfyngu ar allu'r diwydiant i dyfu. "