Llofruddiaeth: diffynydd 'mewn panig'
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Abertawe, mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o drywanu dynes fwy na 40 o weithiau wedi dweud ei fod "mewn panig" ac wedi "chwerthin mewn sioc" yn ystod galwad 999.
Mae Steven Williams, 30 oed o Ddinbych y Pysgod, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Joanna Hall, hefyd o Ddinbych y Pysgod.
Dywedodd Ms Hall bod y diffynnydd wedi ymosod arni, tra'r oedd hi yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad. Bu farw o'i hanafiadau dair wythnos yn ddiweddarach.
Mae Mr Williams yn honni bod y ddau wedi bod yng nghartref Ms Hall yn oriau man bore Mawrth 16, ond ei fod wedi mynd i'r siop am tua 7.30yb.
Dywedodd ei fod wedi dod o hyd i Ms Hall gydag anafiadau pan ddaeth yn ôl, ond ei fod wedi bod mewn "panig" ac wedi aros hanner awr cyn ffonio'r heddlu.
'Panig'
Clywodd y rheithgor bod Mr Williams wedi bod i siop Sainsbury's gyda gwaed ar ei drowsus ar y bore hwnnw.
Gofynnodd yr erlynydd, Elwen Evans QC, iddo: "Roeddet ti wedi ei thrywanu a'i hanafu yn ddifrifol cyn mynd i Sainsbury's, yn doeddat?"
"Na" oedd ateb Mr Williams, gan awgrymu bod y gwaed wedi dod o achos arall pan oedd Ms Hall wedi ceisio anafu ei hun.
Dywedodd y diffynnydd iddo gael panig pan welodd hi wedi'i hanafu yn ei chartre', ond na ffoniodd am ambiwlans na'r heddlu'n syth.
"Ro'n i'n panicio. Do'n i ddim yn gwbod be i wneud."
Clywodd y llys am symudiadau'r diffynnydd y diwrnod cafodd Ms Hall ei hanafu, ac am sut roedd y ddau wedi bod yn dadlau yn ystod y dydd am eu perthynas.
Mae Mr Williams yn honni eu bod yn dadlau am y ffaith nad oedd o'n rhoi cyfle i'r berthynas gyda Ms Hall, a'i fod dal mewn cariad a'i gyn-gariad.
Roedd yr erlynydd yn honni bod y ddadl ynglŷn â haint oedd wedi'i drosglwyddo'n rhywiol, a bod Mr Williams yn flin gyda Ms Hall.
Ond gwadodd Mr Williams ei fod wedi colli ei dymer.
'Chwerthin mewn sioc'
Gofynnodd Ms Evans am symudiadau Mr Williams, wedi iddo adael fflat Ms Hall am 7.30yb, ar ôl derbyn neges ar ei ffôn.
Ni chafodd y diffynnydd ei weld tan 20 munud yn ddiweddarach ar gamera CCTV.
Clywodd y llys hefyd sut roedd hi'n ymddangos bod y diffynnydd yn chwerthin yn ystod galwad 999 yn hwyrach ymlaen.
Dywedodd ei fod yn "chwerthin mewn sioc".
Gofynnwyd iddo a oedd wedi bod yn ymosodol tra'n feddw yn y gorffennol ac fe ddywedodd ei fod, gan "daro waliau ac ati" oherwydd ei ddicter.
Ond gwrthododd yr honiad unwaith eto ei fod wedi colli'i dymer gyda Ms Hall yn ystod y ddadl y cawson nhw.
Mae'r achos yn parhau.