Swyddi'n mynd yn Media Wales
- Cyhoeddwyd
Mae'r grŵp papur newydd mwyaf yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd yn cau tair cangen, fydd yn arwain at bum swydd yn cael eu colli.
Cafodd staff Media Wales glywed heddiw y bydd y swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Phontypridd yn cau.
Mae'r swyddfeydd yn cael eu defnyddio gan newyddiadurwyr sy'n gweithio ar bapurau lleol fel y Glamorgan Gazette, Merthyr Express, Pontypridd Observer, Rhondda Leader a'r Cynon Valley Leader.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), swyddi marchnata a gweinyddol fydd yn mynd yn hytrach na rhai newyddiadurol.
Bydd y newyddiadurwyr yn cael cynnig symud i Gaerdydd neu weithio o'u cartrefi.
Dywedodd Media Wales mewn datganiad: "Bydd papurau Media Wales yn yr ardaloedd hyn i gyd yn cael eu cadw ac ni fydd unrhyw ddiswyddiadau golygyddol o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn.
"Y bwriad yw y bydd y staff golygyddol a hysbysebu sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y swyddfeydd hyn naill ai yn symud i swyddfa Caerdydd Media Wales ar Six Park Street neu yn gweithio o'u cartrefi.
"Yn ogystal, y gobaith yw y bydd y Media Wales yn gallu sicrhau cytundeb gyda busnesau amlwg yng nghanol tair tref, fydd yn gweld newyddiadurwyr yn cael yr hawl i gynnal cyfarfodydd gyda phobl leol yno.
"Bydd pum swydd llawn amser yn diflannu o ganlyniad, a'r rheiny ym maes hysbysebu a rolau gweinyddol ac mae'r cwmni wedi ymrwymo i gyfnod o ymgynghori gyda'r holl staff fydd yn cael eu heffeithio."
Dywedodd Martin Shipton, prif ohebydd Media Wales a llefarydd ar ran NUJ Cymru: "Yn amlwg rydym yn falch na fydd swyddi golygyddol yn cael eu colli ac rydym yn awyddus i sicrhau y bydd newyddion lleol yn parhau i gael yr un faint o sylw ac mae wedi ei gael yn y gorffennol."