'Yogi' wedi marw trwy ddamwain
- Cyhoeddwyd

Mae cwest yng Nghaernarfon wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain ar ddyn o'r Bala fu farw chwe blynedd wedi digwyddiad mewn gêm rygbi.
Roedd Bryan 'Yogi' Davies yn chwarae ei gêm olaf i glwb rygbi'r Bala yn 2007 pan dorrodd ei wddf yn ystod y gêm.
Cafodd ei barlysu yn y digwyddiad, a treuliodd weddill ei oes yn defnyddio cadair olwyn.
Bu farw ym mis Awst 2013 yn 56 oed.
Yn 2009 cyhoeddodd lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn sôn am ei brofiadau er mwyn ceisio cynorthwyo eraill oedd mewn sefyllfa debyg.
Ym mis Medi daeth cannoedd o bobl i wasanaeth arbennig i ddathlu ei fywyd.
Clywodd y cwest gan feddyg teulu Mr Davies, Dr Robin Davies, a ddywedodd ei fod wedi bod ar beiriant anadlu ers y ddamwain ac wedi diodde' nifer o heintiadau i'w frest.
Roedd y cyffuriau a gafodd i drin yr heintiadau yn eu tro wedi achosi poenau stumog difrifol iddo.
Cofnododd y crwner Dewi Pritchard Jones bod Mr Davies wedi marw o niwmonia o ganlyniad i gwadriplegia oherwydd y ddamwain mewn gêm rygbi.
Dywedodd gweddw Mr Davies, Sue, ei bod am ddiolch i Dr Davies a'r tîm meddygol fu'n gofalu am ei gŵr.
Cododd apêl arbennig dros £200,000 er mwyn addasu tŷ Mr Davies fel ei fod yn medru dychwelyd adre ar ôl treulio 18 mis mewn ysbyty wedi'r ddamwain.
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2013
- 31 Awst 2013
- 3 Chwefror 2012
- 31 Awst 2013