Cornelius i ddychwelyd i Ddenmarc?
- Cyhoeddwyd
Dyw'r gŵr o Ddenmarc heb ganfod cefn y rhwyd eto'r tymor hwn
Mae'r BBC yn deall fod Caerdydd yn bwriadu gwerthu Andreas Cornelius yn ôl i FC Copenhagen, gydag awgrymiadau eu bod yn fodlon gwneud colled sylweddol yn y broses.
Fe dalodd yr Adar Gleision £7.5 miliwn amdano ym mis Gorffennaf ar gytundeb pum mlynedd.
Y gred yw y gallai'r clwb o Ddenmarc ei brynu'n ôl am oddeutu £3 miliwn.
Mae Copenhagen wedi Trydar eu bod nhw'n agos i ail-lofnodi'r cawr 6 troedfedd 4 modfedd, wnaeth sgorio 18 o goliau iddyn nhw mewn 32 o gemau y tymor diwethaf.
Dyw Cornelius heb wneud llawer o argraff a dweud y lleia' y tymor hwn. Mewn 11 gêm i Gaerdydd, nid yw wedi llwyddo i sgorio yr un gôl.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2013