Dedfryd hirach i feddyg o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae doctor o Gaerdydd oedd dan hyfforddiant wedi ei garcharu am flwyddyn ychwanegol am ymosod yn rhywiol ar ferched a thynnu lluniau ohonyn nhw tra roedd o'n eu harchwilio.
Mi ddefnyddiodd Suhail Ahmed gamera cudd i gymryd dros 100 o luniau yn Ysbyty Torbay yn Nyfnaint.
Roedd o wedi pledio'n euog i 11 cyhuddiad o ffilmio gweithred breifat er mwyn cael boddhad rhywiol, a dau o ymosod yn rhywiol ym mis Hydref.
Ond mi ddyfarnodd barnwyr yn y llys apel bod angen ymestyn y ddedfryd wreiddiol o ddeunaw mis. Roedden nhw'n dweud bod yr hyn wnaeth Mr Ahmed wedi gadael ei ôl ar nifer o'r menywod a'u bod nhw'n ffeindio hi'n anodd nawr i ymddiried mewn pobl sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd.
Daeth yr heddlu o hyd i'r delweddau pan yr oedd yn gweithio fel llawfeddyg dan hyfforddiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013