Michael Fabricant: gormod o bwyslais ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae aelod Ceidwadol o Loegr wedi dweud bod yna ormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg yn ysgolion Cymru a bod hynny yn effeithio ar safon yr addysg. Fe wnaeth Michael Fabricant y sylwadau yn ystod trafodaeth ar raglen radio 4 BBC - Any Questions.
Dywedodd yr Aelod Seneddol bod hi yn ddigon anodd yn Lloegr i ffeindio athrawon sydd yn ddigon da i ddysgu mathemateg a phynciau gwyddonol a bod gofyn i athro fod yn ddwyieithog hefyd yn 'nonsens'.
Mae sylwadau Michael Fabricant wedi cythruddo'r Aelod Cynulliad Llafur Keith Davies sydd wedi dweud wrth Newyddion 9 ei fod wedi dweud yr hyn gwnaeth o mewn anwybodaeth lwyr.
"Felly dyle fe ddod lawr, mynd mewn i un o'n ysgolion Cymraeg ni a gweld beth sydd yn digwydd na. Falle newidith e ei feddwl wedyn."
Angen aelod Cymreig ar y panel
Ond yn ôl yr AS Ceidwadol Glyn Davies sydd yn cynrychioli Sir Drefaldwyn, mi ddylai'r rhaglen fod wedi rhoi aelod Ceidwadol Cymreig ar y panel.
"Y broblem ydy BBC yn edrych ar y Tories fel Lloegr, fel rhywun yn dod o Loegr. Mae'r Tories yn gryf yng Nghymru. Mae llawer o Tories yng Nghymru i fynd ar y rhaglen. Ond os oes cwestiwn ar unrhyw beth Cymreig ar Any Questions, wel dyna'r broblem."
Mae cynhyrchwyr y rhaglen radio Any Questions wedi ymateb trwy ddweud bod y rhaglen yn rhoi cyfle i wrandawyr glywed ystod o leisiau lleol a chenedlaethol yn trafod pynciau'r dydd.
Maen nhw'n dweud y tro yma roedd y Ceidwadwr Michael Fabricant wedi ymuno gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones ac aelod Plaid Cymru Jill Evans ar y panel. Yn ôl y rhaglen mi oedd yr Aelod Seneddol wedi rhoi barn ddiddorol ar y cwestiynau gafodd eu gofyn.