Ail apêl am dystion wedi ymosodiad yn Adamsdown, Caerdydd
- Published
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad yn ardal Adamsdown, Caerdydd yn apelio unwaith eto ar dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mae Victor Djassi, 21, o'r Rhath, a Ruben Pereira, 20, o Ferthyr Tudful wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd wedi'u cyhuddo o'r ymosodiad ddigwyddodd tua 3 o'r gloch y pnawn ar ddydd Mercher, Ionawr 22.
Cafodd dyn 26 oed ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yn y brifddinas wedi iddo gael ei drywanu yn ei frest ar Tin Street.
Dywedodd y Ditectif gwnstabl Neil Slatter: "Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o'r ymosodiad ond fel rhan o'r ymchwiliad, fe hoffwn siarad gydag unrhywun fyddai wedi gweld unrhywbeth yr adeg hon neu yn gynharach yn y prynhawn, un ai ar Stryd Clifton neu Stryd Topaz."
Dylai unrhywun sydd â gwybodaeth gysylltu â'r Heddlu ar 02920 427 520 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 62140021228
Mi fydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar Chwefror 10.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Ionawr 2014
- Published
- 24 Ionawr 2014