A yw'n bosib gwresogi tai gan ddefnyddio egni o losgydd?
- Published
Mae cynllun i ddefnyddio gwres o losgydd gwastraff dadleuol i gynhesu tai ac adeiladau yng Nghaerdydd wedi derbyn hwb ariannol o £245,000.
Mi fyddai'r cynllun arfaethedig yn golygu codi pibell 12 cilomedr o safle Parc Trident Viridor yn Sblot, er mwyn ei gysylltu gyda thai, busnesau ac adeiladau cyhoeddus yn y ddinas.
Mae yna dipyn o wrthwynebiad wedi bod i'r llosgydd gyda'r grŵp Caerdydd yn Erbyn y Llosgydd yn dweud ei fod yn "wastraff arian, ddim yn effeithiol, yn beryglus ar sawl lefel" ac yn dadlau bod yna ffyrdd llawer gwell o drin ein gwastraff na'i losgi.
Ddydd Iau, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod y cynllun wedi derbyn yr arian gan yr adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC).
Mae'r £245,000 yn rhan o £6m roedd y llywodraeth wedi ei glustnodi ar gyfer prosiectau mewn dinasoedd ar hyd a lled Prydain.
Mi fydd Viridor yn cydweithio gyda chwmni egni E.ON fel rhan o'r fenter, i weld a yw'r cynllun yn ymarferol.
Gwneud gwahaniaeth
Meddai'r cynghorydd Ashley Govier: "Rydw i wrth fy modd fod DECC wedi cydnabod ein cynllun rhwydwaith gwresogi ardal, sydd yn dangos y ffordd rydym yn bwriadu cynhyrchu ein hegni ein hunain, er mwyn lleihau ein defnydd a biliau wrth wneud Caerdydd yn ddinas wir gynaliadwy.
"Pan fydd ffatri Viridor wedi ei chwblhau, mae gennym y cyfle i gynhyrchu 30MW o egni a 25MW o wres sydd yn ddigon i wresogi tua 20,000 o gartrefi yn y ddinas.
"Mae prosiectau o'r math yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chynaladwyedd y ddinas."
Mae disgwyl y bydd y llosgydd wedi ei adeiladu erbyn mis Medi 2015 gan greu 40 o swyddi ac mae pump o gynghorau De Cymru wedi arwyddo cytundeb i'w fwydo gyda gwastraff.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Rhagfyr 2013
- Published
- 3 Awst 2013
- Published
- 1 Chwefror 2013