Pêl-droed: landlord tafarn wedi torri hawlfraint
- Published
Mae landlord tafarn wedi cael gorchymyn i dalu £65,000 mewn costau cyfreithiol am dorri rheolau hawlfraint yr Uwch Gynghrair drwy ddangos gemau pêl-droed yn defnyddio llif deledu o dramor.
Dechreuodd yr Uwch Gynghrair achos yn erbyn Anthony Luxton wedi i sawl gêm gael eu dangos yn nhafarn y Rhyddings yn Abertawe.
Eu dadl oedd bod y llif deledu o Ddenmarc yn defnyddio logo'r Uwch Gynghrair.
Dadlodd Mr Luxton bod yr achos yn "gais anghyfreithlon" i geisio atal defnydd sianeli o dramor.
Dywedodd hefyd nad oedd cais yr Uwch Gynghrair yn dal dŵr oherwydd rheolau masnach yr Undeb Ewropeaidd, ond cafodd hynny ei wrthod.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Luxton eu bod yn debygol o apelio.
'Torri rheolau hawlfraint'
Cafodd y gemau eu dangos yn y dafarn rhwng Medi a Rhagfyr 2012.
Dywedodd cyfreithwraig yr Uwch Gynghrair, Helen Davies QC, bod y dafarn wedi torri rheolau hawlfraint llym drwy ddangos y gemau, gan fod y sianel o Ddenmarc yn dangos logo'r Uwch Gynghrair.
Roedd gan Mr Luxton ond yr hawl i ddefnyddio'r sianeli er mwyn defnydd personol.
Wedi gwrandawiad 3 awr, rhoddodd y barnwr, Mrs Ustus Rose, ddyfarniad diannod ar y sail nad oedd amddiffyniad yn erbyn cais yr Uwch Gynghrair.
Cafodd Mr Luxton orchymyn i dalu £65,000, wrth i'r swm terfynol gael ei gyfrifo.
Croesawodd yr Uwch Gynghrair y dyfarniad. Dywedodd llefarydd: "Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ein hymchwiliad mwyaf ac wedi dechrau achosion cyfreithiol yn erbyn sawl tafarn a byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Dim ond Sky Sports a BT Sport sydd a'r hawl i ddangos gemau'r Uwch Gynghrair yn fyw mewn tafarndai, ac mae tanysgrifiadau cyfreithlon i'w defnyddio mewn tafarndai ar gael ganddyn nhw."
Hwn oedd y cyntaf o hyd at 100 o achosion y mae'r Uwch Gynghrair yn gobeithio eu cynnal eleni yng Nghymru a Lloegr
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Ionawr 2014
- Published
- 3 Ionawr 2013