Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi cynllun i dorri £50m

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Caerdydd angen arbed £50m o'i chyllideb

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei chynlluniau i arbed £50m o'i chyllideb yn 2014/15.

Mae'r cyngor wedi gofyn am ymateb pobl leol wrth gyhoeddi'r cynlluniau.

Rhai cynigion yw cau canolfannau chwarae i blant a lleihau'r nifer o ganolfannau ail-gylchu.

Y dyddiad cau i ymateb i'r cynnig yw Chwefror 13, cyn i'r cabinet, a'r cyngor llawn eu hystyried yn ddiweddarach yn y mis.

Dywedodd y cyngor bod rhai arbedion wedi eu gwneud yn barod drwy ail-strwythuro grantiau.

Mae aelodau cabinet hefyd wedi gaddo cymryd toriad o 2.7% i'w lwfansau.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Heather Joyce: "Eleni, rydyn ni wedi bod yn wynebu nifer o ddewisiadau anodd iawn wrth geisio gosod y gyllideb ac mae pawb wedi bod yn gweithio yn galed iawn i ddod o hyd i arbedion er mwyn amddiffyn ein blaenoriaethau a lleihau'r effaith ar ein gwasanaethau.

"Ond gyda maint y dasg sydd o'n blaenau does dim dewis arall ond i awgrymu rhai syniadau anodd iawn gan fod rhaid i ni ddod a dau ben llinyn ynghyd a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau yna sydd wedi eu blaenoriaethu fel addysg, y bregus a chynyddu swyddi a buddsoddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol