Corff Afon Wysg: Datganiad yr heddlu
- Published
Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn credu mai corff Ben Caplan yw'r un gafodd ei dynnu o Afon Wysg yng Ngaerllion ger Casnewydd neithiwr.
Dydyn nhw heb ei adnabod yn ffurfiol eto ond y gred ydi mai'r gŵr 30 oed ydi o.
Doedd Ben Caplan heb gael ei weld ers dechrau Rhagfyr.
Cafodd ei weld olaf yng Nghaerllion am 11 yr hwyr nos Sadwrn y 7fed o Ragfyr.
Cafodd yr heddlu wybod brynhawn Sul fod Ben Caplan ar goll a buont yn ymchwilio i adroddodiadau fod rhywun wedi mynd mewn i'r afon wrth ymyl Bont Caerllion y noson honno.
Roedd Mr Caplan yn gweithio i adran ddosbarthu papur newydd y South Wales Argus.
Mae'i deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Ionawr 2014