Cynghorau yn galw am gyfarfod brys efo'r Prif Weinidog
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr cynghorau yn galw am drafodaethau brys gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones er mwyn cynnig opsiynau eraill ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol.
Yr wythnos diwethaf, roedd Comisiwn Williams wedi argymell uno cynghorau er mwyn eu lleihau o 22 i ryw 10 neu 12.
Mae arweinwyr cynghorau wedi cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Gwener, y tro cyntaf ers i'r adroddiad gan y comisiwn gael ei gyhoeddi.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod angen 'dadansoddiad trylwyr sydd wedi ei gostio' ond mae arweinwyr yn derbyn bod newidiadau yn mynd i ddigwydd.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb.
Mae Prif Weithredwr y gymdeithas, Steve Thomas wedi dweud wrth BBC Cymru bod awdurdodau lleol am chwarae rhan yn y "drafodaeth fawr" am ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus.
"Maen nhw am gael trafodaethau brys gyda'r Prif Weinidog, maen nhw am gael amserlen i'r ad-drefnu," meddai.
"Rydyn ni ein hunain am roi achos i'r Prif Weinidog am newid mewn llywodraeth leol, a hoffwn i hynny gael ei ystyried.
"Bydd yn deillio o ddadansoddiad llywodraeth leol ar ei hun, yn enwedig wrth edrych ar gostau a ffiniau, ond hefyd ar y model orau i gymunedau Cymru."
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog ddechrau cwrdd arweinwyr y gwrthbleidiau'r wythnos nesaf, i geisio dod i gytundeb trawsbleidiol ar ad-drefnu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014