M4: Un lôn ar gau wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae un lôn o'r M4 ar gau yn dilyn gwrthdrawiad fore Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r De nad ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad.
Y lôn sydd ar gau yw'r un tua'r gorllewin rhwng y Pîl a Margam.
Does dim gwybodaeth wedi dod i law pryd y bydd yn ailagor.