Cymru 23 - 15 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi curo'r Eidalwyr yn Stadiwm y Mileniwm, ac er iddyn nhw fethu â chyrraedd eu safon arferol mae'r freuddwyd o fod y tîm cyntaf i guro'r Chwe Gwlad dair gwaith yn olynol dal yn fyw.
Daeth cais gyntaf y gêm ar ôl cwta dri munud. Fe wnaeth Luke McLean gamgymeriad gafodd ei ddisgrifio fel "siop siafins llwyr" gan sylwebydd S4C, wrth iddo fethu â gafael yn y bêl yn dilyn cic optimistaidd gan Rhys Priestland.
Alex Cuthbert oedd y dyn iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.
Roedd hi bron yn ddwy bedwar munud yn ddiweddarach gyda haid o grysau cochion yn rhedeg ar ôl cic George North, ond llwyddodd asgellwr ifanc yr Eidal Angelo Esposito i'w chicio i ffwrdd.
Cafodd y gleision eu pwyntiau cyntaf ar ôl 13 munud - Brunel yn cicio'n gywir i'w gwneud hi'n 7-3.
Cafodd yr Eidal gyfnod da am ychydig wrth iddyn nhw frwydro'n arwrol yn erbyn y Cymry. Ond y tîm cartref gafodd y pwyntiau nesaf.
Mauro Bergamasco oedd y dyn gafodd ei gosbi am droseddu yn y llinell.
Doedd Leigh Halfpenny ddim am fethu'r cyfle i basio carreg filltir arall yn ei yrfa - gyda'r pwyntiau o'r gic hon byddai'n drydydd ar restr y chwaraewyr sydd wedi sgorio'r mwyaf o bwyntiau dros Gymru.
Fe hedfanodd y bêl rhwng y pyst mewn steil i fynd â chyfanswm pwyntiau'r cefnwr i 349.
Mae Stephen Jones (917) a Neil Jenkins (1,049) yn parhau i fod ymhell ar y blaen, ond a yw Halfpenny, 25, yn ddigon ifanc i'w pasio?
Gwrthod un cais, rhoi'r llall
Roedd hi'n edrych fel bod yr Eidal am ei gwneud hi'n gyfartal bum munud cyn yr egwyl. Cafodd Parisse y gorau o North yn yr awyr ac roedd siom y dorf i'w chlywed wrth iddo groesi'r llinell gais.
Ond penderfynodd y dyfarnwr edrych ar y sgrîn fawr oherwydd bod awgrym bod y bêl wedi mynd ymlaen oddi ar y capten. Yn ffodus i Gymru, roedd hi'n amlwg ei bod hi wedi.
Funudau'n ddiweddarach ac roedd gobeithion yr Eidal o unioni'r sgôr wedi chwalu.
Eiliad o athrylith gan Jamie Roberts arweiniodd at y cais wedi iddo weld bwlch yn amddiffyn y gleision fyddai wedi bod yn anweledig i unrhyw chwaraewr arall.
Scott Williams orffennodd y symudiad gyda'i seithfed cais dros ei wlad.
Cafodd yr ymwelwyr ddechrau perffaith i'r ail hanner. Roedd amddiffyn Cymru yn cysgu ac fe lwyddodd Campagnaro i gyrraedd cic Sarto cyn neb arall.
Roedd y dyfarnwr eisiau ei gweld hi eto, cyn iddo benderfynu rhoi y cais. Roedd peth anghytuno ynglŷn ag oedd Campagnaro wedi pasio'r bêl ymlaen yn gynharach yn y symudiad.
Methodd Allan a throsi er mawr rwystredigaeth i'w gyd-Eidalwyr. 17-8 oedd y sgôr. Fe fethodd Halfpenny gic funudau wedyn er mwyn cydbwyso pethau. Ond fe fethodd Allan un arall yn fuan wedyn eto, wrth i gyfloedd gael eu methu gan y ddau dîm.
Croeso i Warburton
Daeth Priestland yn agos iawn gyda rhediad arbennig wnaeth i'w wrthwynebwyr edrych fel amaturiaid, ond llwyddodd o ddim i fynd â hi'r holl ffordd.
Daeth bloedd fwyaf y dyrfa wedi 64 munud wrth i'r hen ffefryn a'r capten (pan mae'n ffit) ymuno â'r gêm yn lle Dan Lydiate.
Roedd Sam Warburton amlwg yn falch o glywed y gefnogaeth wedi i lawer ei feirniadu'n hallt yn ddiweddar am ei benderfyniad i arwyddo cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru.
Ond doedd ei dîm ddim yn edrych yn gyfforddus, er gwaetha cic arall gan Halfpenny i'w gwneud hi'n 20-7.
Fe wnaeth yr Eidal iddyn nhw dalu am eu diffyg dychymyg gydag ychydig dros ddeng munud ar ôl ar y cloc.
Halfpenny oedd ar fai yma wrth iddo geisio pàs oedd llawer rhy hir. Roedd Campagnaro yn effro ac fe ddaliodd y bel a'i rhedeg yr holl ffordd i ben y cae i sgorio'r cais.
Roedd y cefnwr yn amlwg yn anhapus efo fo'i hyn, a ni wnaeth gweld Allan yn lleihau'r bwlch i 20-15 helpu ei stad feddyliodd.
Ond doedd y gêm ddim o fewn eu cyrraedd am fwy nag ychydig funudau, gyda chic gosb i Gymru'n ei gwneud hi'n 23-15.
Roedd y deng munud olaf yn flêr wrth i nifer o droseddau arafu'r gêm i lawr ac roedd y chwaraewyr yn amlwg yn falch o glywed y chwiban olaf.
Mae record cartref dilychwin Cymru'n erbyn yr Eidal yn parhau, ond bydd raid iddyn nhw chwarae'n llawer, llawer os ydyn nhw am guro Ffrainc a Lloegr.
Cymru v Yr Eidal: Timau
Cymru: L Halfpenny; A Cuthbert, S Williams, J Roberts, G North; R Priestland, M Phillips; P James, R Hibbard, A Jones, L Charteris, A-W Jones (capt), D Lydiate, J Tipuric, T Faletau.
Eilyddion: K Owens, R Bevington, R Jones, A Coombs, S Warburton, R Webb, J Hook, L Williams.
Yr Eidal: L McLean; A Esposito, M Campagnaro, A Sgarbi, L Sarto; T Allan, E Gori; M Rizzo, L Ghiraldini, M Castrogiovanni, Q Geldenhuys, M Bortolami, A Zanni, M Bergamasco, S Parisse (capt).
Eilyddion: D Giazzon, A De Marchi, L Cittadini, J Furno, F Minto, T Botes, L Orquera, T Iannone.
Dyfarnwr: John Lacey (Iwerddon).
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2014
- 28 Ionawr 2014
- 27 Ionawr 2014
- 17 Mawrth 2013
- 22 Ionawr 2014
- 20 Ionawr 2014