Rhyl 5 - 2 Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae Rhyl wedi rhoi crasfa i Bort Talbot yn Belle Vue, ddylai fod yn ddigon i sicrhau lle iddyn nhw yn y chwech uchaf.
Ond mae hynny'n ddibynnol ar ganlyniad apêl Aberystwyth i benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dynnu triphwynt oddi arnyn nhw am chwarae rhywun oedd wedi ei wahardd.
90 munud, 7 gôl
1-0 oedd hi i'r ymwelwyr ar yr hanner amser wrth i'r gwynt roi help llaw i ymdrech Lewis Harling ddarganfod cefn y rhwyd.
Fe sgoriodd y Rhyl ddwywaith yn fuan yn yr ail hanner, ac o fewn 25 munud arall roedd hi'n 3-1. Sgoriodd Ashley Evans o bellter i Bort Talbot, ond roedd gan y Rhyl y momentwm erbyn hyn.
Daeth eu dwy gôl olaf yn agos i'w gilydd.
Bydd Rhyl ac Aberystwyth yn disgwyl am benderfyniad y gymdeithas bêl-droed yn eiddgar.
Straeon perthnasol
- 30 Ionawr 2014