Gwyddelod Llundain 29 - 10 Scarlets
- Published
Mae'r Scarlets wedi colli eu gêm olaf yng Nghwpan LV= y tymor hwn.
Fe ildion nhw'r cais cyntaf ar ôl cwta dri munud, gydag Andrew Fenby yn sicrhau'r pwyntiau.
Daeth ceisiau eraill yn fuan wedyn gan Shane Geraghty, Jamie Hagan a Sailosi Tagicakiba ac roedd y Gwyddelod yn edrych yn gyfforddus iawn.
Fe gafodd George Earle gais i'r Scarlets ddeng munud o'r diwedd, i ychwanegu at gic gosb Josh Lewis, ac fe lwyddodd Gareth Owen i drosi.
Ond fe gadarnhaodd cais arall i'r Gwyddelod, gan Myles Dorrian y tro hwn, mai diwrnod i'w anghofio fyddai hwn i'r cochion.
Un llygedyn o olau oedd bod Jonathan Davies wedi llwyddo i gwblhau 40 munud, wrth iddo geisio dod 'nôl o'i anaf.
Mae posibiliad y gall Davies ymuno a charfan Cymru ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Ionawr 2014