Bwlio o fewn y lluoedd arfog: angen newid agwedd medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Cymreig yn galw am newid yn y ffordd y mae'r lluoedd arfog yn delio gyda bwlio.
Yn ôl AS Pen-y-Bont ar Ogwr, Madeleine Moon, mae angen ombwdsmon newydd er mwyn ymchwilio yn llawn i unrhyw gwynion.
Y llynedd dangosodd arolwg ymlith staff bod un ymhob deg wedi dioddef o achos bwlio.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud nad ydyn nhw yn oddefgar o gwbl tuag at achosion o fwlio.
Mae Madeline Moon yn dweud bod yna agwedd o fewn y proffesiwn "nad ydych chi yn cwyno", yn enwedig ymlith uwch swyddogion.
Newid agwedd
Mae hi'n aelod o bwyllgor amddiffyn Tŷ'r Cyffredin sydd wedi bod yn ymchwilio i'r pwnc.
Bu aelodau'r pwyllgor yn edrych ar sawl arolwg ers 2006, gan ddweud eu bod yn dangos enghreifftiau o aflonyddu rhywiol yn enwedig ymysg merched a rhai dynion.
Yn yr arolwg y llynedd roedd 10% wnaeth ymateb yn teimlo eu bod nhw wedi dioddef bwlio, aflonyddwch neu wedi eu gwahaniaethu yn y 12 mis diwethaf.
Ym mis Chwefror 2013 mi ddywedodd y pwyllgor amddiffyn bod angen newidiadau i'r system gwynion.
Mae Adrian Weale, cyn swyddog gyda'r fyddin wedi dweud ei fod o'n credu y byddai cael ombwdsmon annibynol yn syniad da am fod yn rhaid i gwynion fynd trwy gadwyn o awdurdod.
Ar BBC Radio Wales mi ddywedodd bod y gadwyn honno yn medru golygu bod y person sydd wedi ei gyhuddo o fwlio yn dod i wybod am y mater.
Mae Ms Moon hefyd yn dweud ei bod hi wedi siarad efo milwyr sydd wedi cael eu bwlio.
"Beth sydd angen arnon ni yw newid agwedd yn llwyr o fewn y lluoedd arfog sydd yn adlewyrchu y 21ain ganrif. Fyddech chi ddim yn goddef hynny yn y gweithle yn rhywle arall.
"Mae angen ombwdsmon annibynol allith gomisiynu adroddiadau, allith ymchwilio yr hyn sydd yn digwydd a gosod safonau ar gyfer newid.
Gwella hyfforddiant
"Ar hyn o bryd rydych chi yn ddibynol ar rai sydd wedi achosi'r broblem i newid pethau a dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Dyw'r lluoedd arfog ddim yn goddef unrhyw fath o gamdriniaeth, bwlio na aflonyddu.
"Bydd unrhyw honiad yn cael ei ymchwilio, unai gan heddlu milwrol neu sifil a bydd y camau addas yn cael eu cymryd.
"Rydyn ni yn cydnabod bod hi'n cymryd dewrder i ddweud wrth rywun ac i wneud yr honiad. Rydym wedi gwella hyfforddiant ac wedi codi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod swyddogion yn gwybod sut i adrodd unrhyw bryderon a pha help sydd ar gael iddyn nhw.
"Rydyn ni yn cymryd y mater yma o ddifri a dyna pam ein bod ni'r llynedd wedi creu cronfa ddata newydd er mwyn gwella ansawdd y wybodaeth os oes yna ymchwiliad gan yr heddlu."
Straeon perthnasol
- 21 Mawrth 2005
- 9 Mai 2012