Dyn yn yr ysbyty ar ôl colli rheolaeth o'i gar
- Published
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl iddo golli rheolaeth ar ei gar.
Roedd y dyn 32 oed yn gyrru Vauxhall Zafira lliw arian nos Sul o Dre-gwyr tuag at Benclawdd pan gollodd reolaeth a gadael y ffordd.
Mae'r heddlu yn apelio am lygad dystion ac yn gofyn i dystion ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar y rhif 0800 555 111.