Jenkins yn gwrthod sïon am Laudrup
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd clwb pêl-droed Abertawe wedi gwrthod awgrym ei fod wedi bod yn trafod dyfodol y rheolwr.
Mae sawl si wedi bod am Michael Laudrup wedi i'r Elyrch golli o 2-0 yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.
Dyna oedd y chweched golled mewn wyth gêm yn yr Uwch Gynghrair, ac mae'n eu gadael dau bwynt uwchben y timau ar waelod y tabl.
Ond mynnodd Huw Jenkins nad oedd y clwb wedi bod yn trafod dyfodol Laudrup.
"Dydw i heb glywed unrhyw beth am Michael a dydyn ni heb gwrdd, trafod na gwneud unrhyw beth am Michael," meddai Jenkins.
"Fe wnaeth cwpwl ohonom ni gwrdd ddydd Sul am goffi fel yr arfer. Ond roedd o mor syml â hynny. Dyna le ddaeth y si gyntaf.
"Mae'n anodd i mi ddweud unrhyw beth gan nad oes unrhyw beth i'w drafod."
Mae'r Elyrch nawr yn y 12fed safle, dim ond tri phwynt o flaen Caerdydd, sy'n ail o'r gwaelod.
Bydd y clybiau yn cwrdd yn y Liberty ddydd Sadwrn mewn gêm hollbwysig i'r ddau dîm.
"Y prif nôd yw ennill gemau yn yr Uwch Gynghrair a digwydd bod yr wythnos yma rydyn ni'n chwarae Caerdydd," meddai.
"Gallai eich sicrhau mai ennill y gêm yw'r peth mwyaf pwysig i'r ddau dîm.
"Pan rydych chi'n colli gemau, ac mae pethau mor dynn ar waelod yr Uwch Gynghrair, mae 'na sïon a straeon. Maen nhw wedi bod o gwmpas am sawl wythnos.
"Os ydyn ni'n ennill mae popeth yn iawn. Os ydyn ni'n colli dydyn nhw ddim."
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2014
- 28 Ionawr 2014
- 19 Ionawr 2014