Marwolaeth beiciwr ym Mhont-y-pŵl: pledio'n euog
- Cyhoeddwyd
Bu farw John Reeder ar Awst 7, 2013
Mae dyn 19 oed wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad wedi i'r beiciwr 63 oed o Bont-y-pŵl, John Reeder, farw.
Roedd Casey Coslett yn Llys y Goron Caerdydd fore Llun gyda thri diffynnydd arall.
Fe blediodd Andrew Vass a Kieran Allcock yn ddi-euog i'r cyhuddiad.
Ymddangosodd Dione Morgan drwy linc fideo ond ni wnaeth unrhyw ble.
Mae disgwyl i'r achos sy'n dechrau ar Fawrth 31 bara hyd at dair wythnos.
Fe fydd Coslett yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Fe gafodd Mr Reeder ei ddarganfod ar ochr y ffordd wedi iddo gwympo oddi ar ei feic ym Mhontnewydd ar Awst 7. Roedd ganddo anafiadau i'w ben.
Aed ag e i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw o'i anafiadau.
Roedd ei angladd ym mis Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- 22 Hydref 2013
- 8 Awst 2013