Ymchwilio i farwolaeth dyn 81 oed mewn ysbyty yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth claf mewn ysbyty yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd yr heddlu fod staff yn eu helpu gyda'u hymholiadau.
Bu farw Alan Walker, 81 oed o Goed-llai, Yr Wyddgrug, yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar Ionawr 23.
Mae aelod staff sy'n dymuno bod yn anhysbys wedi dweud wrth BBC Cymru bod y farwolaeth yn adlewyrchiad o "oruchwylio, rheolaeth ac arweiniad gwael".
Dywedodd fod problemau gyda gofal y claf, ac nad oedd disgwyl iddo farw.
"Dylai'r ysbyty gael ei gau i lawr," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd nad oedd neb wedi cael ei arestio ond bod "aelodau o staff yn rhoi cymorth i swyddogion er mwyn creu darlun o'r hyn ddigwyddodd cyn y farwolaeth".
"Mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal. Mae cyhoeddiad am achos y farwolaeth wedi ei ohirio tan y cawn ni ganlyniadau pellach."
'Cydymdeimlad dwysaf'
Mewn datganiad dywedodd yr Athro Matthew Makin, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ar ran y bwrdd iechyd, rwy'n cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i berthnasau'r claf yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Gallaf gadarnhau bod Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar Ionawr 22. Alla'i ddim gwneud sylw pellach oherwydd yr ymchwiliad.
"Ond hoffwn eich sicrhau mai diogelwch cleifion yw'n blaenoriaeth ni. Mae nifer fechan o staff wedi eu symud i ymgymryd â dyletswyddau eraill wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo."