Aelodau Cynulliad yn craffu ar fesur gofal cymdeithasol

Nyrs mewn cartref gofal Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Mesur Drafft wedi cael ei feirniadu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad am 'ddiffyg manylder'

Ym Mae Caerdydd mae Aelodau Cynulliad wedi bod yn trafod manylion y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y mesur fydd y newid mwyaf yn y ddeddf o ran gofal cymdeithasol ers 60 mlynedd.

Bwriad y mesur yw symleiddio'r deddfau sy'n rheoleiddio gofal cymdeithasol a sicrhau bod cynghorau yn asesu anghenion gofalwyr.

Ymhlith y newidiadau sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru mae :-

  • Meini prawf cenedlaethol fel bod pobl yn cael eu hasesu yn ôl eu hanghenion lle bynnag y maen nhw'n byw;
  • 'Asesiadau symudol' fydd yn golygu na fydd pobl yn gorfod cael ailasesiad os fyddan nhw'n symud i ardal awdurdod lleol newydd;
  • Asesiad o anghenion gofalwyr i ganfod os ydyn nhw'n gymwys i dderbyn cymorth gan adrannau gofal cymdeithasol;
  • Gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol.

Safoni

Un o'r prif elfennau yw safoni'r meini prawf cymhwystra sydd ar hyn o bryd yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall.

Yn ystod y drafodaeth dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ei bod yn synnu at y diffyg gwybodaeth am y meini prawf cenedlaethol.

Cynigiodd welliant yn galw am sicrwydd na fyddai rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol ar eu colled.

Roedd y gwelliant yn aflwyddiannus.

"Ydy'r llywodraeth yn dweud nad ydyn nhw'n gwybod ar yr adeg hon ble y dylid gosod y meini prawf cymhwystra?" gofynnodd.

"Ydyn nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gwybod?

"Os felly, mae hyn yn anhygoel."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas ei bod wedi sefydlu grŵp technegol fyddai'n cynghori gweinidogion ynglŷn ag "anghenion ac amgylchiadau fyddai'n sail i hawl orfodadwy i gael gofal a chefnogaeth."

Daeth y pleidleisio ar welliannau i ben am 7.30pm a bydd yn parhau ddydd Mawrth nesa'.

Prinder manylion

Mae gwrthwynebwyr wedi dweud bod nifer y gwelliannau technegol y mae'r llywodraeth wedi eu cyflwyno yn dangos bod y mesur wedi cael ei lunio'n wael.

Hefyd mae rhai wedi dweud nad oes digon o fanylder sut y bydd diwygiadau'n cael eu cyflwyno.

Bydd y mesur yn rhoi pwerau i weinidogion osod rheolau - er enghraifft pwy fydd yn gymwys i dderbyn gofal - ar ôl i'r mesur gael ei basio.

Mewn datganiad mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud beth fyddai'r egwyddorion ar gyfer y rheolau.

Roedd hynny'n dilyn rhybudd un o bwyllgorau'r Cynulliad bod y mesur drafft yn cynnwys "ychydig iawn o fanylion ar yr wyneb" ac nad oedd ynddo'r "lefel ddigonol o wybodaeth am egwyddorion polisi y byddem yn disgwyl eu gweld".

Gwrthwynebu

Eisoes mae gweinidogion yn gwrthwynebu gwelliant aelod o Blaid Cymru, Lindsay Whittle, sy'n galw am wahardd rhieni rhag taro'u plant.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai angen cyfnod hir o ymgynghori cyhoeddus cyn cyflwyno gwaharddiad o'r fath a does dim bwriad ganddyn nhw o wneud hynny tan ar ôl Etholiad y Cynulliad yn 2016.

Mae gwelliant arall yn ymwneud â galluogi plant maeth i aros gyda'u teuluoedd maeth ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.

Yn Lloegr a'r Alban mae'r rheolau wedi cael eu newid i ganiatáu i blant aros gyda'u teuluoedd maeth tan eu bod yn 21 oed.

Mae nifer o elusennau wedi galw am y newid hwn yn ddiweddar.

'Agwedd ddiog'

Dywedodd llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar wasanaethau cymdeithasol, William Graham AC: "Er bod y mesur yma'n delio gyda nifer o agweddau pwysig o ofal cymdeithasol, mae'n esiampl o agwedd ddiog Llafur tuag at ddeddfu.

"Mae llawer o'r cannoedd o welliannau i'r mesur drafft yn rhai technegol, gramadegol neu i gywiro amwysedd, ac fe ellid fod wedi delio gyda'r rheini yn gynharach.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi datblygu fframwaith cyfreithiol i ofal cymdeithasol ond rydym yn parhau'n bryderus na fydd y mesur yma'n golygu diogelwch i'r rhai fyddi am nodi gofal sydd islaw'r safonau disgwyliedig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y Mesur Gofal Cymdeithasol a Lles (Cymru) yw'r mesur mwyaf cymhleth erioed i gael ei ystyried gan y Cynulliad a dyma'r diwygiad mwyaf sylweddol i ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yn y 60 mlynedd diwethaf.

"Mae'r drafodaeth yn rhan hanfodol o'r broses ddeddfwriaethol ac mae gwelliannau i'r mesur yn rhan angenrheidiol o'r broses graffu.

"Mae'r gwelliannau sy'n cael eu cyflwyno yn dangos ein hymrwymiad i gael y ddeddfwriaeth yn iawn ar faterion polisi a thechnegol, ac yn ymateb positif i faterion polisi a godwyd yn ystod y broses graffu."

Straeon perthnasol