Risg o lifogydd pellach ddydd Mawrth
- Published
Wedi i'r tywydd achosi trafferthion ar hyd arfordir Cymru dros yr wythnosau diwethaf, daeth rhybuddion am fwy o broblemau ddydd Mawrth.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws de a gorllewin Cymru, gyda'r gwynt yn hyrddio hyd at 80 m.y.a. mewn mannau.
Yn ogystal, mae disgwyl hyd at 20mm o law mewn rhai ardaloedd ac fe allai hynny achosi llifogydd pellach.
Ddydd Llun bu timau o weithwyr y cynghorau yng ngorllewin Cymru yn gweithio drwy'r dydd i geisio clirio'r llanast ar y ffyrdd a ddaeth dros y penwythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn benodol yn rhybuddio teithwyr am y peryglon posib, yn enwedig gan goed wedi dymchwel.
Hefyd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynghori pobl i fod yn ofalus gan fod disgwyl i'r glaw trwm barhau drwy weddill yr wythnos.
'Amodau anodd'
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Fe allai'r glaw achosi llifogydd lleol o afonydd a ffrydiau, ac fe fydd dŵr ar wyneb y ffyrdd yn gwneud amodau gyrru'n anodd.
"Yn y cyfamser fe allai gwyntoedd cryfion a thonnau mawrion ar hyd yr arfordir o Ynys Môn i lawr i'r de-orllewin arwain at lifogydd lleol pellach nos Fawrth a bore Mercher."
Bydd yr A487 drwy Niwgwl yn Sir Benfro yn parhau ar gau am ychydig ddyddiau wrth i'r gwaith barhau i geisio clirio'r ffordd yn dilyn tywydd mawr y penwythnos.
Bu'n rhaid achub deg o bobl o fws wedi i donnau ei daro oddi ar y ffordd nos Sadwrn.
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi'r digwyddiad.
Ond dywedodd Cyngor Ceredigion bod y gwaith gafodd ei wneud i bromenâd Aberystwyth yn dilyn stormydd mis Ionawr wedi llwyddo i ddiogelu'r strwythurau ddydd Llun.
Meddai llefarydd: "Mae'r cyngor a'i bartneriaid o'r asiantaethau yn monitro'r rhagolygon tywydd ac mae gennym staff wrth law os fydd angen."
Ychwanegodd eu bod yn ceisio cwblhau mwy o waith trwsio cyn y llanw uchel iawn nesaf ar ddiwedd mis Chwefror.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Chwefror 2014
- Published
- 2 Chwefror 2014
- Published
- 31 Ionawr 2014
- Published
- 30 Ionawr 2014
- Published
- 1 Chwefror 2014