Codiad cyflog i weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin
- Published
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd 3,000 o weithwyr ar gyflogau isel yn derbyn codiad cyflog o 4.56%.
Yn ôl Bwrdd Gweithredol y cyngor byddai'n golygu cost o £315,000 ac yn dod i rym ym mis Ebrill pe bai'n cael sêl bendith y cyngor llawn.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r cyngor ystyried gwahanol gynlluniau i geisio arbed £30 miliwn dros gyfnod o dair blynedd.
Ar hyn o bryd mae canllawiau cyllid y cyngor yn caniatáu codiad cyflog o 1% i holl staff y cyngor.
Byddai caniatáu codiad uwch i rai o'r staff yn golygu newid yn y gyllideb.
Fe fydd y cyngor llawn yn trafod y gyllideb newydd ar Chwefror 19.
"Fe fyddai'r newidiadau yn sicrhau bod miloedd o staff sy'n derbyn y cyflogau isaf un yn cael codiad uwch na'r 1% oedd wedi ei gymeradwyo ar gyfer staff yn y sector cyhoeddus," meddai arweinydd y cyngor, Kevin Madge.