A55 yn ailagor wedi tagfeydd

  • Cyhoeddwyd
A55 TreborthFfynhonnell y llun, Traffic Wales
Disgrifiad o’r llun,
Bu oedi yn ardal Treborth am gyfnod

Mae'r A55 ger Pont Britannia wedi ailagor ar ôl i lori droi ar ei hochr.

Digwyddodd y ddamwain ar Bont Britannia fore Mawrth wrth i bobl fynd i'w gwaith.

Bu'n rhaid cau'r lôn orllewinol am gyfnod rhwng Cyffordd 9 (A487 Treborth) a Chyffordd 8A (A5 Ffordd Caergybi).

Cafodd craen ei ddefnyddio er mwyn symud y lori oedd ar y ffordd ymadael ar Gyffordd 8.