Principality: Mwy o forgeisi nag erioed
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol yn eu helw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fel rhan o'u canlyniadau blynyddol dywedodd y cwmni eu bod wedi gwneud elw cyn treth o £29 miliwn - £3 miliwn yn fwy na'r llynedd.
Y Principality yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, a'r chweched mwyaf yn y DU.
Mewn rhan arall o'r canlyniadau, dywedodd y cwmni eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y morgeisi y maen nhw'n eu cynnig.
Yn wir mae'r nifer yna yn uwch nag erioed o'r blaen yn hanes y cwmni.
'Deall pryderon'
Mae'r Principality, ynghyd â nifer o fanciau eraill, wedi dechrau ail-gyflwyno morgeisi 95% i rhai benthycwyr.
Dywed y cwmni bod hynny'n hybu'r farchnad drwy roi cyfle i brynwyr tro cyntaf i brynu tŷ heb fod angen ernes fawr.
Ond mae rhai yn feirniadol o'r polisi, gan ddadlau bod y cyfuniad o gynnig credyd yn hawdd a phrisiau tai sy'n anghynaladwy o uchel wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr argyfwng ariannol.
Gwadu hynny mae'r Principality, gyda'u prif weithredwr Graeme Yorston yn dweud fod y cwmni'n parhau yn bwyllog a chall ynglŷn â phwy sy'n cael cynnig benthyciad.
Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi annog banciau a chymdeithasau adeiladu i gynnig morgeisi 95% drwy eu cynlluniau cymorth i brynu.
Dywedodd Mr Yorston: "Rwy'n deall pryderon pobl am forgeisi lle mae canran uchel o fenthyca, ond fel benthycwyr cyfrifol mae'n bwysig i ni sicrhau ein bod yn asesu gallu'r person i dalu'r morgais.
"Rydym yn asesu pawb yn ofalus am eu gallu nid yn unig i dalu'r morgais nawr, ond i barhau i wneud hynny pan fydd graddau llog yn dechrau codi."
Mae Banc Lloegr wedi dweud y byddan nhw'n ystyried codi graddfeydd llog pan fydd diweithdra yn y DU yn disgyn islaw 7%.
Yn y ffigyrau diweddaraf ym mis Ionawr, roedd diweithdra yn y DU ar hyn o bryd yn 7.1%, a 7.2% yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013