Cynllun 'arloesol' i wasgaru dŵr glaw

Ysgol Stebonheaeth
Image caption Un o'r cronfeydd dwr yn Ysgol Stebonheath, Llanelli

Mae Dŵr Cymru yn lansio cynllun gwerth £15 miliwn i atal llifogydd yn ardal Llanelli.

Y cynllun yw'r mwyaf o'i fath ym Mhrydain, a'i nod yw cronni dŵr glaw ac yna sicrhau ei fod yn cael ei sugno yn raddol gan bridd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cydweithio ar y prosiect, wedi bod yn codi palmentydd er mwyn plannu coed a thyfu gwair.

Hefyd mae llefydd chwarae ysgolion wedi cael eu haddasu er mwyn creu safleoedd fydd yn troi yn 'gronfeydd dŵr' mewn cyfnodau o argyfwng.

Fe wnaeth Dŵr Cymru gyflwyno'r cynllun oherwydd problemau cyson gyda'r system carthffosiaeth, oedd yn arwain at lifogydd mewn cartrefi a hefyd yn llygru'r afon Lliedi.

Pyllau dŵr

Fel rhan o'r cynllun mae tarmac a phalmentydd yn cael eu codi er mwyn creu pyllau i ddal dŵr glaw.

Yna mae sianelau penodol yn cyfeirio'r dŵr o'r gwteri i'r pyllau.

Maes o law bydd y pyllau yn cael eu gorchuddio gyda gwair neu blanhigion.

Mae'r pridd yn dal y dŵr nes iddo wasgaru yn araf deg neu ddiflannu.

Mae'r corff rheoleiddio Ofwat wedi cymeradwyo'r cynllun.

Yn ôl Dŵr Cymru er bod esiamplau o'r un math o gynllun ym Malmo (Sweden) a Portland (Unol Daleithiau America) Cynllun RainScape Llanelli fydd y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau ym mis Mai.

Pibellau

Mae'n debyg bod rhwydwaith pibellau dŵr ardal Llanelli yn gorfod ymdopi â chymaint o ddŵr glaw a rhwydwaith Abertawe, er gwaetha'r ffaith fod rhwydwaith Abertawe yn gwasanaethu tair gwaith cymaint o dai ag ardal Llanelli.

Dywedodd Steve Wilson o Ddŵr Cymru mai'r modd traddodiadol o ddelio gyda'r broblem oedd defnyddio pibellau a thanciau storio enfawr. Ond roedd y rhain yn mynd yn orlawn yn gyflym iawn.

"Felly rydym yn gweithio ar gynllun fydd yn rhatach ac yn fwy effeithiol. Rydym yn dod a dŵr oddi ar doeau ac oddi ar y strydoedd, ac yna yn hytrach na'i sianelu i ddraeniau traddodiadol rydym yn dod o hyd i ffyrdd eraill o'i wasgaru."

Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn golygu 22,500 metr ciwbig yn llai o ddŵr yn y gwteri, gan olygu diogelu 57 o gartrefi rhag llifogydd.

Dywedodd y cynghorydd Colin Evans, aelod o gabinet Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb am wasanaethau Technegol: "Mae'r awdurdod yn hapus iawn i gydweithio gyda Dŵr Cymru a phantleriaid eraill wrth ddatrys problemau sy'n ymwneud â newid hinsawdd.

"Mae'r cynllun hwn yn arloesol ac yn un cynaliadwy, un o nifer fydd eu hangen er mwyn mynd i'r afael a newid yn yr hinsawdd, tra'n parhau i ganiatáu datblygiad economaidd."

Straeon perthnasol