Pro 12: Treviso 33-41 Scarlets

Frazier Climo Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Frazier Climo gafodd ddau o geisiau'r Scarlets

Fe wnaeth y Scarlets sicrhau pwynt bonws gyda buddugoliaeth yn yr Eidal yn erbyn Treviso.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen 27-12 yn gynnar yn yr ail hanner, ond fe wnaeth Treviso frwydo'n ôl i 33-34, gyda chais hwyr Jordan Williams yn sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Scarlets.

Kirby Myhill, Frazier Climo (2), Gareth Davies a Kristian Phillips groesodd i'r Scarlets.

Fe wnaeth y maswr Aled Thomas gicio 11 pwynt.

Robert Barbieri, Meyer Swanepoel a Ludovico Nitoglia aeth drosodd i Treviso.

Straeon perthnasol