Cyn weithwyr Remploy nôl mewn busnes
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o gyn weithwyr cwmni Remploy yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi uno i lansio eu busnes dodrefn eu hunain.
Mae 'Ministry of Furniture' wedi ei leoli ychydig fetrau i ffwrdd o hen safle ffatri Remploy ym Mharc Egni Bae Baglan, ac yn cyflenwi holl amrywiaeth o ddodrefn Remploy, gan gynnwys cadeiriau, byrddau, dodrefn swyddfa ac offer cyflwyniadau i ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Mae wyth o bobl yn rhan o'r fenter newydd, sydd wedi derbyn nawdd gan NatWest, Cyllid Cymru, RBS Invoice Finance a Lombard.
Meddai'r cyfarwyddwr reolwr, Graham Hirst, sydd wnaeth arwain Dodrefn Remploy am 20 mlynedd: "Rydym yn dechrau gyda nifer fechan o bobl ac yn defnyddio cyn fusnesau Remploy yn ein cadwyn gyflenwi ar hyn o bryd. Wrth i ni ehangu i adeiladu a chynhyrchu dodrefn, fe fydd hynny'n arwain at swyddi pellach."
Fe gafodd Remploy ei sefydlu ym 1946 i gynnig gwaith a chefnogaeth i bobl ag anabledd, ac fe ddatblygwyd rhwydwaith o ffatrïoedd yn y 1950au a'r 1960au, gyda phobl anabl yn cael eu cyflogi i weithio ynddynt.
Fe gaewyd nifer o ffatrïoedd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yr un ym Maglan fis Medi diwethaf.
Roedd pob un o bedwar cyfarwyddwr y cwmni newydd a'r pedwar aelod arall o staff yn arfer gweithio yn y ffatri Remploy ym Maglan, ac mae hanner ohonyn nhw yn bobl ag anabledd.
Bu'r cyfarwyddwyr yn gweithio gyda Natwest a Cyllid Cymru i sicrhau nawdd o £60,000 i'w sefydlu ynghyd â'u buddsoddiadau personol.
Mae sawl ffatri Remploy wedi cau ei drysau ond mae 'na rai cyn weithwyr sydd wedi gweld cyfle.
Mae saith o gyn weithwyr cwmni Remploy yn Fforest-fach, Abertawe hefyd wedi dod at ei gilydd i ffurfio menter gydweithredol.
Mae Accommodation Furniture Solutions Ltd (AFS Ltd) yn adeiladu a chynhyrchu dodrefn ers mis Hydref diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013